Pennaeth Rheoleiddio

Pennaeth Rheoleiddio

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol i Wasanaeth Rheoleiddio Ynys Môn (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd), gan sicrhau bod swyddogaethau statudol a rheoleiddiol yn cael eu cyflawni’n effeithiol, wrth greu’r amodau sy’n cefnogi datblygu cynaliadwy, buddsoddiad ac economi leol ffyniannus.

Atebolrwydd statudol dros swyddogaethau cynllunio a gwarchod y cyhoedd y Cyngor, a thros sicrhau bod gwasanaethau rheoleiddiol yn cael eu cyflawni’n broffesiynol, cyson ac yn unol â’r gofynion deddfwriaethol.

Bydd y rôl yn cefnogi blaenoriaethau’r Cyngor trwy gyfrannu at ddatblygu cynlluniau strategol ar gyfer y Cyngor Cyfan, yn ogystal â chydweithio ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person a manylion ychwanegol.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad, fanyleb person a manylion ychwanegol i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

https://www.ynysmon.llyw.cymru/recriwtio-uwch-reolwyr

Manylion cyswllt

Enw: Eurig Williams

Rhif ffôn: 01248 752560 / 01248 752926

Cyfeiriad e-bost: eurigwilliams@ynysmon.llyw.cymru

Pennaeth Rheoleiddio employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team