Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Darparu gwasanaethau o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gofalwyr yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gweithdrefnau Diogelu Cymru ac i weithredu newidiadau cynaliadwy.

Bod yn arweinydd strategol a gweithredol cryf ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Gwybodus am Drawma ledled Ynys Môn, gan sicrhau bod rheolyddion diogelu ar waith i warchod plant a phobl ifanc bregus; gwella ansawdd bywyd a gwella canlyniadau ar gyfer pobl ifanc Ynys Môn a gweithio gyda theuluoedd. Sicrhau bod y Cyfarwyddwr yn cyflawni yr hyn mae’n atebol iddo yn effeithiol drwy ddarparu a dirprwyo, a bod atebolrwydd clir ar gyfer perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Bydd y rôl yn cefnogi blaenoriaethau’r Cyngor drwy gyfrannu at ddatblygu Cynllun y Cyngor a chynlluniau strategol, yn ogystal â chydweithio ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid, yn benodol er mwyn datblygu a gweithredu Strategaeth fydd yn atal cenedlaethau’r dyfodol rhag bod angen ymyraethau dwys gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mwy o wybodaeth

Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person a manylion ychwanegol.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad, fanyleb person a manylion ychwanegol i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

https://www.ynysmon.llyw.cymru/recriwtio-uwch-reolwyr

Manylion cyswllt

Enw: Eurig Williams

Rhif ffôn: 01248 752926 / 01248 752560

Cyfeiriad e-bost: EurigWilliams@ynysmon.llyw.cymru

Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team