Peiriannydd Rhwydwaith Cyswllt - Data, Digidol a Thechnoleg (DDaT)

Peiriannydd Rhwydwaith Cyswllt - Data, Digidol a Thechnoleg (DDaT)

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Mae’r Peiriannydd Rhwydwaith Cyswllt - DDaT yn gweithio yn y disgyblaeth beirianneg o fewn y Seilwaith TG, yn y teulu o swyddi technegol DDaT. Mae’r swydd yn cynnwys y swyddogaethau sy’n gysylltiedig â darparu a chynnal a chadw gweinydd seilwaith cwmwl y Cyngor. Bydd rhaid gweithio o fewn y ddisgyblaeth beirianneg ac ar y cyd â disgyblaethau eraill i weithredu datrysiadau TG o ansawdd, effeithlon o ran cost, i fodloni amrywiaeth eang o ofynion busnes ar draws y sefydliad.

Bydd y deilydd yn atebol i’r Peiriannydd Arweiniol y Rhwydwaith DDaT, ac yn cyflawni nodau strategol y tîm DDaT. Bydd y deilydd yn cynorthwyo’r Peiriannydd Arweiniol i gefnogi datrysiadau TG effeithiol ac yn gwneud gwaith ar brosiectau a busnesau fel gwaith bob dydd.

Bydd y deilydd yn cynorthwyo gyda datblygu eu tîm i fodloni’r anghenion technolegol sy’n newid yn y sefydliad drwy rannu gwybodaeth, paratoi dogfennau a chanllawiau ac adnabod meysydd i’w gwella.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt

Enw:Christopher Jones

Rhif ffôn: 01248 752525

Cyfeiriad e-bost: ChrisDJones@ynysmon.llyw.cymru

Peiriannydd Rhwydwaith Cyswllt - Data, Digidol a Thechnoleg (DDaT) employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team