At a Glance
- Tasks: Help improve student attendance and support educational legal processes.
- Company: Join a dedicated team focused on enhancing lives in Ynys Môn.
- Benefits: Enjoy a rewarding role with a commitment to professional development.
- Other info: 39 weeks per year with opportunities for growth and development.
- Why this job: Make a real difference in the community and support families to thrive.
- Qualifications: Passion for education and strong communication skills, Welsh language skills preferred.
The predicted salary is between 31650 - 41000 £ per year.
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu. Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm.
Pwrpas cyffredinol y swydd: Cyfrannu tuag at yr agenda i wella presenoldeb disgyblion ledled ysgolion yn y ddau awdurdod, gweithredu prosesau cyfreithiol sy’n ymwneud â Hysbysiadau Cosb Penodedig yn y maes Addysg, paratoi achosion ar gyfer erlyn yn y llysoedd, bwrw ymlaen â Gorchmynion Goruchwylio Addysg a Gorchmynion Presenoldeb Ysgol, a chynorthwyo gyda gweithredu gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â materion cyflogaeth plant.
Mwy o wybodaeth: Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol. Tymor ysgol: 39 wythnos yr flwyddyn. Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon. Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Swyddog Lles Addysg x 2 in Llangefni employer: ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
Mae Ynys Môn yn gyflogwr rhagorol sy'n ymrwymo i wella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Gyda diwylliant gwaith sy'n canolbwyntio ar bartneriaeth a pharch, rydym yn cynnig cyfleoedd datblygu i'n gweithwyr, gan eu hannog i gymryd balchder yn eu gwaith a chynnal safonau uchel. Mae ein lleoliad hardd yn cynnig amgylchedd bywiog a chefnogol, ble gall teuluoedd ffynnu a chael profiadau gwerthfawr yn y gymuned leol.
Contact Details:
ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL Recruitment Team