Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
- Sicrhau bod plant a phobl ifanc Ynys Môn wrth galon popeth a wnawn.
- Cefnogi disgyblion 3 - 16 oed mewn ymateb i’w hanghenion, yn arbennig y rheiny gydag anghenion emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol, i waredu rhwystrau rhag dysgu mewn ysgolion ac yng Nghanolfan Adnoddau Môn fel rhan o ’r t îm integredig ADY a Chynhwysiad.
- Gweithredu’r Cod Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.
- Sefydlu perthynas gweithredol ac effeithiol gyda disgyblion, gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r disgwyliadau yr amlinellir yn y safonau proffesiynol ar gyfer cymorth addysg.
- Gweithio dan reolaeth a goruchwyliaeth yr Uwch Athro Cynhwysiad a’r Athro Arbenigol - Ymyrraeth Gynnar Ymddygiad. Bydd yr holl ddyletswyddau yr amlinellir yn y swydd ddisgrifiad yn cael eu cynnal dan reolaeth a goruchwyliaeth athro.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
#J-18808-Ljbffr
Cymhorthydd Dysgu Therapiwtig in Llangefni employer: Isle of Anglesey County Council
Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.
Contact Details:
Isle of Anglesey County Council Recruitment Team