Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.
Beiriannydd Diogelwch - Data, Digidol a Technoleg (DDaT)
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rhai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae'r Peiriannydd Diogelwch DDaT yn gweithio o fewn disgyblaeth peirianneg Diogelwch TG yn nheulu swyddi technegol DDaT . Mae'r swydd yn cynnwys y swyddogaethau sy'n gysylltiedig â monitro, canfod ac adfer gwendidau a phroblemau diogelwch mewn cymwysiadau, gweinyddion a Seilwaith cwmwl y Cyngor. Byddant yn gweithio ar y cyd â'r disgyblaethau eraill i wella diogelwch atebion TG menter y Cyngor yn barhaus a datblygu'r hyfforddiant, y polisïau a'r rhaglenni codi ymwybyddiaeth cysylltiedig. Byddant yn cynnal ymchwil i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg mewn canfod a ymateb i wendidau gan sicrhau bod y Cyngor yn barod ar gyfer newidi adau yn y dirwedd diogelwch.
Gan adrodd i Beiriannydd Diogelwch Arweiniol DDaT, bydd y swydd hon yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni nodau strategol tîm DDaT. Byddant yn cynorthwyo'r Peiriannydd Arweiniol i ddatblygu atebion effeithiol ac yn ymgymryd â gwaith ar brosiectau a gwaith busnes fel arfer.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi ac yn mentora aelodau'r tîm ac yn sicrhau bod y cyngor yn gwella ystum diogelwch a gwydnwch ei seilwaith TG yn barhaus. Byddant yn cynorthwyo gyda datblygu eu tîm i ddiwallu anghenion technoleg newidiol y sefydliad trwy rannu gwybodaeth, cynhyrchu dogfennau a chanllawiau a nodi meysydd i'w gwella.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Mae'r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho.
#J-18808-Ljbffr
Beiriannydd Diogelwch - Data, Digidol a Technoleg (DDaT) in Llangefni employer: Isle of Anglesey County Council
Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.
Contact Details:
Isle of Anglesey County Council Recruitment Team