Asesydd Gofal Cymdeithasol - Llesiant Meddwl Môn in Llangefni

Asesydd Gofal Cymdeithasol - Llesiant Meddwl Môn in Llangefni

Llangefni Full-Time On-site
I

Bydd y dolenni hyn yn agor tab newydd yn eich porwr.

Asesydd Gofal Cymdeithasol - Llesiant Meddwl Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Mae’r rôl yn golygu gweithio ar draws y maes Gofal Cymdeithasol, gyda phob gr ŵ p oedran, gan gynnwys gweithio mewn modd amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol gyda phartneriaid. Gall Aseswyr Gofal Cymdeithasol gael eu galw i weithio yn unrhyw un o dimau’r adran neu i gwblhau gwaith ar eu rhan, yn amodol ar eu gallu a’u profiad. Mae’n bosibl y cânt eu lleoli mewn gwahanol dimau er mwyn datblygu eu gwybodaeth a’u gallu mewn gwahanol feysydd, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu gweithredu’n hyblyg i gwrdd â’r galw.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm o weithwyr proffesiynol ac yn cynorthwyo’r Adran i weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac i weithio’n agosach ag Iechyd a phartneriaid eraill. Byddant yn rheoli llwyth achosion, gan gynnwys gwaith asesu a darparu ymyraethau gofal cymdeithasol, ac yn uwchgyfeirio achosion mwy cymhleth sy’n gofyn am gyfraniad proffesiynol ar lefel uwch gan Weithiwr Cymdeithasol neu Therapydd Galwedigaethol.

Byddant yn hyrwyddo annibyniaeth, llesiant a diogelwch oedolion, plant a gofalwyr ar Ynys Môn sydd ag anghenion gofal a chymorth. Bydd deiliad y swydd yn gwneud hyn drwy asesu anghenion oedolion, plant a gofalwyr gan ddefnyddio gweithdrefnau’r Adran. Lle bo angen, byddant yn asesu anghenion gofalwr neu ofalwyr yr unigolyn ar wahân. Byddant yn datblygu a dylunio cynlluniau gofal a chymorth a chynlluniau priodol eraill, er enghraifft cynlluniau addysg. Byddant yn argymell unrhyw gymorth allanol oddi mewn i gyllidebau, gan sicrhau bod y defnydd gorau’n cael ei wneud o’r adnoddau sydd ar gael abod y gymeradwyaeth angenrheidiol yn cael ei rhoi lle bo angen, er enghraifft ceisiadau i’r Panel Adnoddau.

Byddant yn cynllunio’n greadigol gydag unigolion, gwneud y mwyaf o’r asedau sydd ar gael, lleihau risgiau a lleihau dibyniaeth ar ddarpariaeth gwasanaeth tymor hir. Bydd hyn yn cynnwys rhoi gwybodaeth a chyngor, cefnogi pobl i ddefnyddio adnoddau cymunedol cyffredinol, darparu offer ac addasiadau cymunedol, a sicrhau mynediad at wasanaethau gofal a chymorth statudol yn ôl yr angen.

Mwy o wybodaeth

Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Mae'r dogfennu atodedig ar gael yn y linciau. Bydd clicio ar linc dogfen yn cychwyn ei lawrlwytho.

#J-18808-Ljbffr

Asesydd Gofal Cymdeithasol - Llesiant Meddwl Môn in Llangefni employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team