Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant - Plant Sy’n Derbyn Gofal
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff:
Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Sicrhau bod Plant a Phobl Ifanc sy’n Derbyn Gofal (LAC) gyda Chynllun parhaol i fyw mewn cartref preswyl ar Ynys Môn, yn derbyn y lefelau a’r safonau priodol o ofal a chymorth a chreu amgylchedd hapus, diogel a chefnogol i’r unigolion hynny. Mae hyn yn cy nnwys cyflawni pob math o weithgareddau a dyletswyddau dros gyfnod o 24 awr (yn cynnwys cysgu dros nos neu weithio drwy’r nos ac oriau anghymdeithasol).
Wrth i blant/bobl ifanc y Cartrefi Clyd baratoi i fyw’n annibynnol bydd y Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant yn parhau i ddarparu cymorth ymarferol, gofal a chefnogaeth i alluogi’r unigolion, pan fyddant yn barod ac yn ddigon abl i wneud hynny ar ôl troi’n 18 oed, i fyw’n annibynnol yn y gymuned.
Mwy o wybodaeth
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth agofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant - Plant Sy’n Derbyn Gofal in Llanfairpwllgwyngyll employer: ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL
Isle of Anglesey County Council is an excellent employer, offering a supportive and collaborative work culture that prioritises the growth and development of its staff. As a Learning Support Specialist in Gaerwen, you will have the opportunity to make a meaningful impact on students' lives while benefiting from professional development opportunities and a commitment to inclusivity within the local education authority.
Contact Details:
ISLE OF ANGLESEY COUNTY COUNCIL Recruitment Team