Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid

Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Mae'r swydd yn cael ei hariannu gan Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru (elfen Ymgysylltu Ieuenctid) ac fe'i dyrennir yn flynyddol. Contract cyfredol tan 31 Mawrth, 2028.
Bydd y Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid yn rhan o dîm Ôl-16 y Gwasanaeth Ieuenctid, gan weithio'n bennaf gyda'r grŵp oedran 16-24 oed. Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r person ar adegau penodol o'r flwyddyn weithio gydag Ysgolion Uwchradd a Gyrfa Cymru o flwyddyn 10 ymlaen i nodi pobl ifanc a allai fod mewn perygl o ddod yn NEET (nad ydynt mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant) ar ôl gadael yr
ysgol. Yna bydd y gweithiwr yn olrhain a monitro unrhyw bobl ifanc NEET â Gyrfa Cymru ar ôl gadael yr ysgol drwy eu system haen, a bydd yn gyfrifol am ail-ymgysylltu â'r person ifanc, a brocera cymorth i'w symud ymlaen i gyrchfan. Bydd y gweithiwr yn cario llwyth achosion bach o bobl ifanc a bydd hefyd yn gyfrifol am gadw mewn cysylltiad yn rheolaidd â phobl ifanc ychwanegol.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt

Enw: Carys LLoyd-Hughes

Rhif ffôn: 07929765713

Cyfeiriad e-bost: caryshughes2@ynysmon.llyw.cymru

Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team