Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant

Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Sicrhau bod Plant a Phobl Ifanc sy’n Derbyn Gofal (LAC) gyda Chynllun parhaol i fyw mewn cartref preswyl ar Ynys Môn, yn derbyn y lefelau a’r safonau priodol o ofal a chymorth a chreu amgylchedd hapus, diogel a chefnogol i’r unigolion hynny. Mae hyn yn cynnwys cyflawni pob math o weithgareddau a dyletswyddau dros gyfnod o 24 awr (yn cynnwys cysgu dros nos neu weithio drwy’r nos ac oriau anghymdeithasol).


Wrth i blant/bobl ifanc y Cartrefi Clyd baratoi i fyw’n annibynnol bydd y Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant yn parhau i ddarparu cymorth ymarferol, gofal a chefnogaeth i alluogi’r unigolion, pan fyddant yn barod ac yn ddigon abl i wneud hynny ar ôl troi’n 18 oed, i fyw’n annibynnol yn y gymuned.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt

Enw: Rachel Williams

Rhif ffôn: 01248 752066

Cyfeiriad e-bost: RachelWilliams@ynysmon.llyw.cymru

Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team