Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Perthnasau Iach

Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Perthnasau Iach

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Mae hon yn swydd tymor penodol newydd sy’n cael ei darparu drwy Brosiect Partneriaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd ac Ynys Môn. Cafodd y swydd ei chreu i gryfhau’r gwaith o atal ac adnabod ymddygiad rhywiol niweidiol, perthnasau gwael, niwed ar-lein a chamfanteisio ar blant sy’n effeithio ar bobl ifanc ledled Ynys Môn yn
brydlon. Bydd y deilydd swydd yn gweithio ar draws pump ysgol uwchradd yr ynys, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau wedi’u targedu, lle mae gwybodaeth a gweithgareddau partneriaeth lleol wedi adnabod yr angen am ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol. Bydd y deilydd swydd yn gweithio’n agos gyda’r Cydlynydd Perthnasau Iach a’r Gwasanaeth Ieuenctid i adnabod yr arwyddion cynnar o ymddygiad rhywiol niweidiol, ymddygiad ar-lein sy’n peri pryder, gorfodaeth,
camfanteisio, cam-drin rhwng cyfoedion, a bregusrwydd. Bydd y deilydd swydd yn gweithio’n agos gydag ysgolion, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaethau
Cyfiawnder Troseddol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac asiantaethau partner eraill i sicrhau bod ymyrraeth a chymorth prydlon yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl ifanc cyn i bryderon waethygu.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt

Enw: Nia Williams

Rhif ffôn: 07811721093

Cyfeiriad e-bost: NiaWilliams@ynysmon.llyw.cymru

Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Perthnasau Iach employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team