Gweithiwr Cefnogol Llesiant a Chynhwysiant x2

Gweithiwr Cefnogol Llesiant a Chynhwysiant x2

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Mae'r fenter newydd hon wedi'i chydlunio'n gydweithredol rhwng Plant a Theuluoedd a Gwasanaethau Dysgu Ynys Môn. Mae'r timau yn fodel newydd o ddarparu gwasanaethau amlasiantaethol sy'n cael ei ddatblygu a'i weithredu yn Ynys Môn fel rhan o strategaeth newydd o weithio gyda'i gilydd i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i gyflawni eu potensial addysgol a chymdeithasol llawn. Bydd y pwyslais ar
ymyrraeth gynnar effeithiol ym mywydau plant a'u teuluoedd i gefnogi'r newidiadau hynny a fydd yn sicrhau ffyniant addysgol a chymdeithasol y plant.

Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddarparu ymyriadau uniongyrchol a chymorth addysgol a chymdeithasol i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi cael eu cyfeirio. Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm sy'n tyfu wrth i'r broses o ymyrraeth gynnar a strategaeth atal gael ei hymgorffori mewn cyflenwi lleol.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio'n agos gydag ystod eang o asiantaethau a sicrhau bod gan deuluoedd a gweithwyr proffesiynol wybodaeth gywir, gyfredol am y gwasanaeth a ddarperir gan y Tîm a gwasanaethau eraill ar yr ynys. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar sail 1:1 neu mewn sefyllfa grŵp gyda phlant, pobl ifanc a / neu eu teuluoedd. Byddant yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau e.e. ysgolion, cartrefi, cymuned Bydd disgwyliad bod gan y staff o fewn y tîm wybodaeth dda, gadarn o ddiogelu plant a phrofiad yn y maes.

Mwy o wybodaeth

Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt

Enw: Nia Williams

Rhif ffôn: 07811721093

Cyfeiriad e-bost: niawilliams@ynysmon.llyw.cymru

Gweithiwr Cefnogol Llesiant a Chynhwysiant x2 employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team