Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu dull ataliol er mwyn sicrhau llesiant ei ddinasyddion. Er mwyn caniatáu i ni wella ein hymateb i’r ddyletswydd hon, mae’r Tîm Teuluoedd Gwydn yn darparu cefnogaeth ddwys a chyflym i deuluoedd gyda’r nod o gryfhau gwytnwch, atal y berthynas o fewn teuluoedd rhag methu a hyrwyddo newid fel bod yr amgylchedd teuluol yn un diogel.
Nod y Tîm Teuluoedd Gwydn yw:
• Gweithio’n ddwys gyda theuluoedd i gadw eu plant allan o ofal.
• Gweithio’n ddwys gyda theuluoedd er mwyn i’r teulu gael eu hailuno cyn pen 8 wythnos ar ôl i’r plentyn fynd i ofal.
• Gweithio’n ddwys â theuluoedd a nodwyd er mwyn i’w plant gael eu dychwelyd atynt lle maedychwelyd adref wedi’i nodi fel cynllun sefydlogrwydd yn y tymor hir.
Mae’r tîm yn cynnwys gweithwyr proffesiynol sydd â sgiliau a phrofiad o weithio’n uniongyrchol â phlant sy’n derbyn gofal a chymorth a rhieni ac oedolion sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth. Mae’r tîm yn gweithio’n rhagweithiol ac yn ddwys gyda theuluoedd i reoli risg ac ymateb yn ddigynnwrf i argyfwng gan ddefnyddio dulliau arloesol, darparu cymorth ymarferol a sgiliau therapiwtig, cryfhau gwytnwch, y gallu i rianta a lleihau’r risg o fewn teuluoedd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel aelod o’r tîm i ddarparu ymyraethau amserol, hyblyg, ymarferol a seiliedig ar wybodaeth/tystiolaeth i blant/pobl ifanc a theuluoedd:
• Os oes risg y bydd y plentyn/person ifanc yn cael ei roi mewn gofal.
• Er mwyn ailuno teuluoedd cyn pen 8 wythnos, pan fo hynny’n ddiogel ac ymarferol.
• Er mwyn helpu plant sydd wedi bod mewn gofal am gyfnod hir i ddychwelyd adref yn ddiogel.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda rhieni/gofalwyr/plant/pobl ifanc i ddatblygu cryfderau teuluoedd.
Drwy rymuso teuluoedd bydd y tîm yn eu galluogi i wneud penderfyniadau doeth a chymryd cyfrifoldeb dros eu bywydau eu hunain.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos â phob math o asiantaethau, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Bydd deiliad y swydd yn gwneud gwaith 1:1 neu grŵp gyda phlant, pobl ifanc a/neu eu teuluoedd. Bydd yn
gweithio mewn pob math o leoliadau e.e. ysgolion, cartrefi a’r gymuned leol.
Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad a dealltwriaeth da a chadarn ynglyn â diogelu plant a dilyn gweithdrefnau a phrotocolau i sicrhau bod diogelwch plant o’r pwys mwyaf.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyfrannu at dîm sy’n tyfu wrth gyflwyno’r broses ar gyfer darparu ymyraethau dwys i’r ddarpariaeth leol.
Mwy o wybodaeth
Gwelwch y swydd disgrifiad am mwy o gwybodaeth a gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.
Penodiad yn ddibynnol ar Gwiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol.
Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.
Atodir isod y disgrifiad swydd/manyleb person.
Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y dogfennau yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.
Manylion cyswllt
Enw: Lara Barker
Rhif ffôn: 07976774577
Cyfeiriad e-bost: Larabarker@ynysmon.llyw.cymru
Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd / Ymyrraeth - Teuluoedd Gwydn employer: Isle of Anglesey County Council
Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.
Contact Details:
Isle of Anglesey County Council Recruitment Team