Cymhorthydd Addysgu – Lefel 4 – Cefnogi a Chyflwyno Dysgu

Cymhorthydd Addysgu – Lefel 4 – Cefnogi a Chyflwyno Dysgu

Full-Time On-site
I

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl.
Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Pwrpas cyffredinol y swydd

Fel ymarferwr proffesiynol cofrestredig gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg, cyflenwi gwaith proffesiynol athro drwy gymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt o dan gyfundrefn oruchwylio gytûn. Gall hyn gynnwys cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion/grwpiau neu dymor byr ar gyfer dosbarthiadau cyfan a monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau, cynnydd a datblygiad y disgyblion.

Yn gyfrifol am reoli a datblygu maes arbenigol o fewn yr ysgol a/neu reoli cymorthyddion addysgu eraill, yn cynnwys dyrannu a monitro gwaith, gwerthuso a hyfforddiant.

Mwy o wybodaeth

Cytundeb hyd at 31 Awst 2027

Penodiad yn ddibynnol ar wiriad GDG (DBS) lefel uwch boddhaol a chofrestriad CGA.

Gweler y swydd ddisgrifiad am fwy o wybodaeth ac ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod y ffurflen gais a’r disgrifiad swydd/manyleb person.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a’r fanyleb person i’ch cyfrifiadur neu ar gof bach gan y bydd y ddwy ddogfen hyn yn diflannu unwaith y bydd y swydd yn cau.

Manylion cyswllt a chyflwyno ffurflenni cais

Enw: Mrs Ffion Gough

Rhif ffôn: 01248 723441

Cyfeiriad e-bost: goughf3@hwbcymru.net

Ffurflenni cais i’w dychwelyd i: Ysgol Gyfun Llangefni, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7NG

Dyddiad Cau: Hanner dydd, Dydd Gwener, 30 Hydref 2026

Cymhorthydd Addysgu – Lefel 4 – Cefnogi a Chyflwyno Dysgu employer: Isle of Anglesey County Council

Isle of Anglesey County Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a collaborative and supportive work culture that prioritises the growth and development of its employees. As a Senior Manager in the Secondary Sector, you will have the opportunity to make a meaningful impact on educational outcomes while benefiting from professional development opportunities and a strong commitment to work-life balance in a picturesque location. Join us in shaping the future of education for children and young people in our community.

I

Contact Details:

Isle of Anglesey County Council Recruitment Team