Rheolwr Ymchwiliadau – Cymhleth - Cymraeg yn Ddymunol in Birmingham

Rheolwr Ymchwiliadau – Cymhleth - Cymraeg yn Ddymunol in Birmingham

Birmingham Full-Time No working from home possible
INDEPENDENT OFFICE FOR POLICE CONDUCT

Rheolwr Ymchwiliadau – Cymhleth - Cymraeg yn Ddymunol

Yr hyn rydym yn ei Gynnig:

  • 27.5 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl (gan gynyddu gyda gwasanaeth i 32.5 diwrnod)
  • Mae'r dewis i brynu, i werthu, neu i gario gwyliau blynyddol drosodd yn cael ei adolygu bob blwyddyn ac yn cael ei gynnig pan yn bosib
  • Darperir Cynllun Arian Gwirfoddol Iechyd gan BHSF
  • Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
  • Pecyn absenoldeb mamolaeth y Gwasanaeth Sifil
  • Rhaglen cymorth gweithwyr PAM
  • Mynediad i aelodaeth Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC)
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Cyfle i fwynhau'r cartref ac electroneg diweddaraf mewn ffordd fwy fforddiadwy a ddarperir gan Vivup
  • Rhwydweithio Staff yn canolbwyntio ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig - yn cael eu rhedeg ar gyfer staff, gan staff: Rhwydwaith Enable, Rhwydwaith Oed, Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg, Rhwydwaith Pride a LHDTC+, Rhwydwaith Rhyw a Theulu, Rhwydwaith Hil, Crefydd a Chred
  • Dysgu a datblygu wedi'u teilwra i'ch rôl.
  • Amgylchedd gydag opsiynau gweithio hyblyg
  • Diwylliant sy'n annog cynhwysiant ac amrywiaeth

Gwybodaeth Ychwanegol:

Bydd unrhyw symudiad i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o gyflogwr arall yn golygu na allwch gael mynediad at dalebau gofal plant mwyach. Mae hyn yn cynnwys symudiadau rhwng adrannau'r llywodraeth. Fodd bynnag, gallwch fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau eraill y llywodraeth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth. Penderfynwch ar eich cymhwysedd ar wefan https://www.gov.wales/childcare-offer-for-wales-campaign

Yn unol â Pholisi Recriwtio a Dethol SAYH, rydym yn argymell bod y cydweithwyr mewnol yn gwneud cais cynnar o fewn y saith diwrnod cyntaf, fel y gallwn weld os oes digon o ddiddordeb o fewn y sefydliad i gadw’r rôl yn fewnol am gyfnod llawn yr hysbyseb yn fyw.

Byddwn yn adolygu nifer y ceisiadau ar ôl y saith diwrnod cyntaf ac mae’n bosibl y caiff y rôl ei hysbysebu’n allanol ar ôl y cyfnod hwn.

Gweler y Canllawiau Polisi Recriwtio a Dethol, sydd ar gael ar yr Hyb, am ragor o wybodaeth.

Wrth gyflawni’r rôl hon, byddwch yn dod i gysylltiad rheolaidd â deunydd trallodus a fydd yn debygol o gael effaith, trawmatic a heriol.

O ystyried natur y gwaith, [mae’n bosibl hefyd] y byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy’n profi trallod eithafol.

Mae SAYH yn cydnabod hyn ac yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau lles i’r holl staff, gan gynnwys TRiM (Rheoli Risg Trawma), cymorth rhwng cymheiriaid, Cynghorydd Lles penodedig, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim.

Mae'r holl staff yn cael eu hannog yn gryf i gyrchu ac ymgysylltu â'r cymorth ar gael yn rhagweithiol.

Os hoffech siarad am yr elfen hon o'r rôl â rhywun sy'n gwneud gwaith tebyg eisoes yn SAYH cysylltwch â recriwtio@policeconduct.gov.uk a gall hyn gael ei drefnu.

Cyflwyniad Swydd:

Fel Rheolwr Ymchwiliadau – Cymhleth, byddwch yn rhan o dîm ymchwiliadau dynamig sy'n gweithio'n lleol ac yn genedlaethol ar bob math o ymchwiliadau yn y gyfarwyddiaeth Ymchwilio, Goruchwylio a Gwaith Achos. Byddwch yn cyfarwyddo ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag achosion argyfyngus, dadleuol a risg uchel.

Gyda'r Rheolwr Ymchwiliadau – Rheolwr Perfformiad ac Adnoddau ac Ymchwiliadau – Busnes Craidd, byddwch yn gyfrifol am ddarparu arweiniad strategol i dimau o ymchwilwyr, sicrhau bod ymchwiliadau o ansawdd uchel, cadarn ac annibynnol yn cael eu darparu ac arddangos ein gwerthoedd craidd ym mhob agwedd ar eich rôl.

Byddwch yn arwain ar Hawl Dioddefwyr i Adolygiad, byddwch yn benderfynwr ar ail-ymchwiliadau ac yn ailedrych ar benderfyniadau ymchwilio blaenorol.

Mae'r swydd wag hon yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant, i ddysgu mwy, cliciwch yma.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, gofynnir i chi gwblhau 2

#J-18808-Ljbffr

Rheolwr Ymchwiliadau – Cymhleth - Cymraeg yn Ddymunol in Birmingham employer: INDEPENDENT OFFICE FOR POLICE CONDUCT

Joining the Independent Office for Police Conduct (IOPC) as an Employee Relations Specialist offers a unique opportunity to contribute to meaningful organisational change while working in a high-performing team. The IOPC fosters a culture of accountability, collaboration, and continuous improvement, providing employees with ample growth opportunities and the chance to make a real impact on police complaint systems across Wales and England. With a commitment to professional development and a supportive work environment, the IOPC is an excellent employer for those looking to enhance their expertise and drive significant change.

INDEPENDENT OFFICE FOR POLICE CONDUCT

Contact Details:

INDEPENDENT OFFICE FOR POLICE CONDUCT Recruitment Team