Swyddog Gweinyddol (Cyllid) / Administrative Officer (Finance)

Swyddog Gweinyddol (Cyllid) / Administrative Officer (Finance)

Full-Time No working from home possible
Grŵp Cynefin

Swyddog Gweinyddol (Cyllid) / Administrative Officer (Finance)

Diolch am eich diddordeb yn y swydd yma gyda Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych.

Y weledigaeth ar draws mudiad Gofal a Thrwsio cyfan yw bod holl bobl hŷn yn byw mewn cartrefi sy’n gwella ansawdd eu bywyd.

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn sicrhau bod anghenion pobl hŷn neu bobl fregus yn aros yn ganolog i ddarpariaeth ein gwasanaethau a’i bod yn parhau i dderbyn gwasanaeth holistic “dal dwylo” ardderchog sydd ar gael am hyd oes y cleient. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill â chyfeirio ar draws pob gwasanaeth.

Llinell strap ein Asiantaeth yw: “Gwell Cartrefi, Gwell Iechyd” sy’n cael ei gefnogi drwy ein datganiad o fwriad: “I alluogi pobl hŷn neu bregus i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn saff, cyfforddus, cynnes a diogel”.

Ac ein gweledigaeth yw i fod yn: “Ddarparwr blaenllaw o wasanaethau arloesol sy’n; gwella ansawdd bywyd pobl hŷn neu fregus”.

Fe ddaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni o Grŵp Cynefin ar y 1af o Orffennaf 2015: Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ac Elusen Cofrestredig. Rydym yn cydymffurfio ag ymarfer da cydnabyddedig ac mae ganddynt bolisïau personél blaengar sy’n rhoi amodau gwaith teg a chyfeillgar i'r teulu.

Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydym am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Fel aelod o Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych cewch byddwch yn darparu gweinyddiaeth ariannol a chefnogi Rheolwr Gweithrediadau sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl brosesau ariannol.

Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.

Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig pensiwn drwy’r National Employment Savings Trust (NEST).

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Gofal a Thrwsio Conwy a Dinbych Care & Repair

Swyddog Gweinyddol (Cyllid) / Administrative Officer (Finance)

Profiad o wybodaeth weithredol am y Trydydd Sector, Gofal Cymdeithasol Awdurdodau Lleol / Tai ac Iechyd a deall cymhlethdodau'r gwaith hwn.

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £25,687 - £28,911 y flwyddyn

Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd

Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol

#J-18808-Ljbffr
Grŵp Cynefin

Contact Details:

Grŵp Cynefin Recruitment Team