Diolch am eich diddordeb yn y swydd yma gyda Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych .
Y weledigaeth ar draws mudiad Gofal a Thrwsio cyfan yw bod holl bobl hŷn yn byw mewn cartrefi sy'n gwella ansawdd eu bywyd.
Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn sicrhau bod anghenion pobl hŷn neu bobl fregus yn aros yn ganolog i ddarpariaeth ein gwasanaethau a’i bod yn parhau i dderbyn gwasanaeth holistic "dal dwylo" ardderchog sydd ar gael am hyd oes y cleient. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill â chyfeirio ar draws pob gwasanaeth.
Llinell strap ein Asiantaeth yw: “Gwell Cartrefi, Gwell Iechyd” sy’n cael ei gefnogi drwy ein datganiad o fwriad:-
“I alluogi pobl hŷn neu bregus i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn saff, cyfforddus, cynnes a diogel”
Ac ein gweledigaeth yw i fod yn:-
“Ddarparwr blaenllaw o wasanaethau arloesol sy’n; gwella ansawdd bywyd pobl hŷn neu fregus”
Fe ddaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni o Grŵp Cynefin ar y 1af o Orffennaf 2015:Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ac Elusen Cofrestredig.Rydym yn cydymffurfio ag ymarfer da cydnabyddedig ac mae ganddynt bolisïau personél blaengar sy'n rhoi amodau gwaith teg a chyfeillgar i'r teulu.
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.
http://www.grwpcynefin.org/en/eich-cymuned/denbighshire-care-repair/
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur ac yn frwdfrydig i wneud gwahaniaeth.
Fel Swyddog Cymorth Busnes byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi perfformiad gweithredol, cydymffurfiaeth a gwelliant parhaus ar draws y sefydliad. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am fonitro a dadansoddi data perfformiad a chydymffurfiaeth, nodi tueddiadau a meysydd pryder, a chynhyrchu adroddiadau cywir ac ystyrlon i gefnogi penderfyniadau gwybodus gan dimau rheoli a'r Bwrdd Rheoli Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych.
Rydyn yn croesawu ac yn annog darpar ymgeiswyr i gysylltu a ni i drafod y swydd ac i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Donna Roberts, Rheolwr Gweithredol ar 0300 111 2120.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £29,779 - £33,515 y flwyddyn
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol
Pensiwn: Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig pensiwn drwy’r National Employment Savings Trust ( NEST)
Disgrifiad Swydd DS Swyddog Cymorth Busnes 08.26.pdf
JD Business Support Officer 0826.pdf
Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: I gadarnhau
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Swyddog Cymorth Busnes (Cydymffurfio)/ Business Support Officer (Compliance) employer: Grŵp Cynefin
Grŵp Cynefin is an exceptional employer dedicated to building and maintaining homes while supporting tenants and communities across North Wales. With a strong focus on employee well-being, professional development, and a commitment to sustainable community growth, we offer a rewarding work culture that values passion and care. Join us in making a meaningful difference in people's lives while enjoying competitive benefits and a supportive team environment.