Trydanwr Aml Grefft / Multi Skilled Electrician in North Wales

Trydanwr Aml Grefft / Multi Skilled Electrician in North Wales

North Wales Full-Time On-site
Grŵp Cynefin

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.

Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.

Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.

Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.

Ymunwch â'n Tîm Cynnal a Chadw profiadol a helpwch ni i ddarparu cartrefi diogel, dibynadwy ac o safon uchel i'n tenantiaid ledled Gogledd Cymru. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gynnal, gwella a buddsoddi yn ein cartrefi a'n cymunedau, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol bob dydd.

  • Cyflawni ystod eang o waith trwsio, cynnal a chadw, profi a gosod trydanol mewn cartrefi ac eiddo masnachol ar draws portffolio Grŵp Cynefin a'i is-gwmnïau.

  • Sicrhau bod pob gwaith yn cael ei gwblhau i'r safonau uchaf, gan gydymffurfio â'r holl reoliadau, safonau a chanllawiau arfer gorau perthnasol.

  • Darparu gwasanaeth effeithlon sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf, gan sicrhau canlyniadau o safon uchel a phrofiad cadarnhaol i denantiaid.

  • Manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio eich sgiliau ar draws amrywiaeth o dasgau aml-grefft, gan weithio mewn eiddo gyda thenantiaid, eiddo gwag, mannau cymunedol a phrosiectau eraill ledled Gogledd Cymru.

  • Bod yn rhan o dîm cefnogol ac ymroddedig sy'n ymfalchïo mewn crefftwaith rhagorol, datblygiad parhaus a darparu gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Os ydych yn drydanwr cymwys sy'n angerddol am ansawdd, gwasanaeth cwsmeriaid a gwaith tîm, hoffem glywed gennych.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch âg Elgan Evans, Rheolwr Gwasanaeth, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £38,131

Lleoliad: Safleoedd Gwaith y Gymdeithas

Oriau Gweithio: 40 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Teithio: Darperir cerbyd ar gyfer defnydd busnes awdurdodedig.

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Disgrifiad Swydd

DS Trydanwr Aml Grefft 0926

JD Multi Skilled Electrician 0926.pdf

Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf

Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!


Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf

Privacy Notice Job Applicant.pdf


Canllawiau cwblhau cais.pdf

Guidelines for completing your application.pdf

Dyddiad y cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 02.11.26

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.


Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.


Trydanwr Aml Grefft / Multi Skilled Electrician in North Wales employer: Grŵp Cynefin

Grŵp Cynefin is an exceptional employer dedicated to building and maintaining homes while supporting tenants and communities across North Wales. With a strong focus on employee well-being, professional development, and a commitment to sustainable community growth, we offer a rewarding work culture that values passion and care. Join us in making a meaningful difference in people's lives while enjoying competitive benefits and a supportive team environment.

Grŵp Cynefin

Contact Details:

Grŵp Cynefin Recruitment Team