Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.
Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.
Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Fel aelod o’r Tim Asedau byddwch yn cefnogi rheolaeth effeithiol o asedau tai Grŵp Cynefin drwy gynnal arolygon cyflwr stoc, archwiliadau cydymffurfiaeth eiddo a gwaith monitro sicrwydd ansawdd mewn perthynas â gwaith cynnal a chadw, buddsoddi a datblygu.
Byddwch yn cynnal data asedau cywir er mwyn cefnogi cynllunio buddsoddi a chydymffurfiaeth reoleiddiol, yn cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch cyfnodol o ardaloedd cymunedol, yn monitro gosodiadau ac offer sy’n ymwneud â chydymffurfiaeth, ac yn darparu gwasanaethau sicrwydd ansawdd a Chlerc Gwaith ar draws rhaglenni datblygu, adfywio, cynnal a chadw wedi’i gynllunio a buddsoddi cyfalaf.
Bydd y rôl yn cyfrannu at sicrhau bod cartrefi Grŵp Cynefin yn parhau i fod yn ddiogel, yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol, yn gynaliadwy ac yn addas i’r diben, gan ddarparu profiad cadarnhaol i denantiaid.
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Sion Broadbent, Rheolwr Aswdau ar 0300 111 2122.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £34,523 - £38,855
Lleoliad: Dinbych neu Penygores / Gweithio gartref
Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Teithio: Hanfodol
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Disgrifiad Swydd
Cymraeg DS Syrfewr Asedau a Chydymffurfiaeth 11.26.pdf
Saesneg JD Assets Compliance Surveyor 11.26.pdf
Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: W/c 7fed o Ragfyr 2026
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol / Safonol / Manwl / Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Syrfewr Asedau a Chydymffurfiaeth / Assett and Compliance Surveyor GC793 in North Wales employer: Grŵp Cynefin
Grŵp Cynefin is an exceptional employer dedicated to building and maintaining homes while supporting tenants and communities across North Wales. With a strong focus on employee well-being, professional development, and a commitment to sustainable community growth, we offer a rewarding work culture that values passion and care. Join us in making a meaningful difference in people's lives while enjoying competitive benefits and a supportive team environment.