At a Glance
- Tasks: Support older tenants to live independently and confidently in their homes and communities.
- Company: Join Grŵp Cynefin, a leading housing association dedicated to community support.
- Benefits: Competitive salary, 30 days annual leave, and professional development opportunities.
- Other info: Dynamic team environment with excellent career growth and learning opportunities.
- Why this job: Make a real difference in the lives of older people and promote independence.
- Qualifications: Passion for helping others and strong communication skills in Welsh and English.
The predicted salary is between 34200 - 41800 £ per year.
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau. Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd. Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl hŷn? Rydym yn chwilio am unigolyn ymroddedig a brwdfrydig i ddarparu gwasanaeth rheolaeth tai o'r radd flaenaf, gan gefnogi tenantiaid i fyw'n annibynnol, yn ddiogel ac yn hyderus yn eu cartrefi a'u cymunedau. Byddwch yn allweddol wrth gefnogi i ddarparu gwasanaeth rheolaeth tai rhagorol o fewn ein cynlluniau tai gofal ychwanegol a thai gwarchod, gan gefnogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol a ffynnu yn eu cymunedau.
Ymunwch â thîm ymroddedig sy'n gweithio i sicrhau gwasanaeth effeithlon, proffesiynol a chwsmer-ganolog, gan roi profiad cadarnhaol i denantiaid a chleientiaid ar bob cam o'u taith. Mae cefnogi tenantiaid i gynnal eu tenantiaeth yn llwyddiannus, gan hyrwyddo eu hawliau, eu dewisiadau a'u hannibyniaeth, a'u galluogi i fyw bywyd llawn ac annibynnol yn rhan allweddol o'r swydd. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau presenoldeb ac ymatebolrwydd gwasanaethau o fewn y cynlluniau, gan weithio'n agos gyda chydweithwyr i ddarparu'r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir.
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Sian Ellis, Arweinydd Tîm Pobl Hŷn, ar 0300 111 2122.
Pecyn Math o gytundeb: Dros dro, dros gyfnod mamolaeth
Cyflog: £29,779 y flwyddyn pro rata
Lleoliad: Swyddfeydd y Grŵp, cynlluniau tai gwarchod a gofal ychwanegol, a gweithio o gartref.
Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Teithio: Hanfodol
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Datblygiad Personol: Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dyddiad y cyfweliadau: 13.10.26
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl Oedolion gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Swyddog Tai Pobl Hŷn / Older Person's Housing Officer in North Wales employer: Grŵp Cynefin
Grŵp Cynefin is an exceptional employer dedicated to building and maintaining homes while supporting tenants and communities across North Wales. With a strong focus on employee well-being, professional development, and a commitment to sustainable community growth, we offer a rewarding work culture that values passion and care. Join us in making a meaningful difference in people's lives while enjoying competitive benefits and a supportive team environment.