Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth. Bydd deilydd y swydd yn darparu cyngor cynhwysfawr i denantiaid a darpar denantiaid ar oblygiadau Deddf Diwygio Lles gan gynnwys ymgyrchoedd wedi’u tagedu a chyfweliadau wyneb yn wyneb. Disgwylir i chi weithio’n effeithiol yn cefnogi’r Tîm Tai i ddatblygu dealltwriaeth o effaith diwygiad Lles, cefnogi’r Arweinydd Tîm a chyd-weithio gydag aelodau eraill i gyflawni nodau ac amcanion y Tîm.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £29,779 - £33,515 y flwyddyn
Lleoliad: Dinbych a gweithio o gartref
Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwydyn Newydd
Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Disgrifiad Swydd DS Swyddog Lles Ariannol 06 2026.pdf
JD Financial Welfare Officer 06.2026.pdf
Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf
Os ydych yn cael trafferth agor y dogfennau, ewch yn syth i wefan swyddi Grŵp Cynefin a rhowch gynnig arall arni, neu mae croeso i chi gysylltu â ni.
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: I gadarnhau
Er mwyn sicrhau parhad yn y gwasanaeth hanfodol hwn, mae'r sefydliad yn cadw'r hawl i benodi i'r swydd cyn y dyddiad cau. Anogir ymgeiswyr i wneud cais cyn gynted á phosibl.
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol/Manwl/Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.