Saer Coed Aml Grefft / Multi Skilled Joiner in North Wales

Saer Coed Aml Grefft / Multi Skilled Joiner in North Wales

North Wales Full-Time On-site
Grŵp Cynefin

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.

Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.

Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.

Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.

Ymunwch â'n Gweinthlu Mewnol o fewn ein Tîm Cynnal a Chadw a gwnewch wahaniaeth go iawn i gartrefi a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Byddwch yn darparu gwaith coed a gwaith aml grefft o safon uchel ar draws amrywiaeth eang o eiddo, gan gyfrannu at greu cartrefi diogel, cyfforddus a chroesawgar i'n tenantiaid.

  • Cyflawni ystod eang o waith atgyweirio, cynnal a chadw a gosod ar draws stoc eiddo Grŵp Cynefin, gan gynnwys cartrefi â thenantiaid ynddynt, eiddo gwag, mannau cymunedol a gwaith cytundebol arall.

  • Sicrhau bod pob gwaith yn cael ei gyflawni'n ddiogel, yn effeithlon ac i'r safonau uchaf, gan gydymffurfio â rheoliadau, manylebau ac arferion gorau'r diwydiant.

  • Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda thenantiaid, cydweithwyr a phartneriaid, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol a phrofiad cwsmer o'r radd flaenaf.

  • Defnyddio technoleg a systemau digidol i reoli gwaith yn effeithiol, cofnodi gwybodaeth yn gywir a helpu i ddarparu gwasanaeth modern ac effeithlon.

  • Gweithio fel rhan o dîm proffesiynol, cefnogol ac ymroddedig sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth bob dydd.

Os ydych yn ymfalchïo yn eich gwaith, yn mwynhau datrys problemau ac yn angerddol am ddarparu gwasanaeth rhagorol, hoffem glywed gennych.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch âg Elgan Evans, Rheolwr Gwasanaeth, ar 0300 111 2122.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £34,376 y flwyddyn

Lleoliad: Safleoedd Gwaith y Gymdeithas

Oriau Gweithio: 40 awr yr wythnos

Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Teithio: Darperir cerbyd ar gyfer defnydd busnes awdurdodedig.

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Disgrifiad Swydd

DS Saer Coed Aml Grefft 0926.pdf

JD Multi Skilled Joiner 09.26.pdf

Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf

Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!


Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf

Privacy Notice Job Applicant.pdf


Canllawiau cwblhau cais.pdf

Guidelines for completing your application.pdf

Dyddiad y cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 02.11.26

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.


Saer Coed Aml Grefft / Multi Skilled Joiner in North Wales employer: Grŵp Cynefin

Grŵp Cynefin is an exceptional employer dedicated to building and maintaining homes while supporting tenants and communities across North Wales. With a strong focus on employee well-being, professional development, and a commitment to sustainable community growth, we offer a rewarding work culture that values passion and care. Join us in making a meaningful difference in people's lives while enjoying competitive benefits and a supportive team environment.

Grŵp Cynefin

Contact Details:

Grŵp Cynefin Recruitment Team