Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.
Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.
Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.
Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Fel Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer swyddogaethau cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, brand, cyfryngau, ymgyrch ac ymgysylltu â rhanddeiliaid Grŵp Cynefin.
Bydd y rôl yn cryfhau proffil, enw da ac effaith y sefydliad drwy gyfathrebu clir, cynhwysol ac effeithiol gyda thenantiaid, cwsmeriaid, cydweithwyr, cymunedau, partneriaid, cyllidwyr, Llywodraeth Cymru, y cyfryngau a rhanddeiliaid ehangach
Bydd deiliad y swydd yn arwain datblygu, gweithredu ac adolygu strategaethau, polisïau, ymgyrchoedd, fframweithiau negeseuon, protocolau cyfryngau a threfniadau cyfathrebu argyfwng, gan sicrhau bod gweithgarwch yn cyd-fynd â'r Cynllun Corfforaethol, gwerthoedd sefydliadol, ymrwymiadau dwyieithog, gofynion rheoleiddiol ac anghenion tenantiaid a chymunedau
Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Nerys Price-Jones, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant ar 0300 111 2122.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: Cystadleuol hyd £65,000 y flwyddyn
Lleoliad: Dinbych a Penygroes / Gweithio o adre
Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Teithio: Hanfodol
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg i safon uchel yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Disgrifiad Swydd DS Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddous 10.26.pdf
JD Head of Communication and Public Affairs 10.26.pdf
Buddiannau Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf Privacy Notice Job Applicant.pdf
Canllawiau cwblhau cais.pdf Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: 2 a 3 Tachwedd 2026
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus / Head of Communication and Public Affairs in North Wales employer: Grŵp Cynefin
Grŵp Cynefin is an exceptional employer dedicated to building and maintaining homes while supporting tenants and communities across North Wales. With a strong focus on employee well-being, professional development, and a commitment to sustainable community growth, we offer a rewarding work culture that values passion and care. Join us in making a meaningful difference in people's lives while enjoying competitive benefits and a supportive team environment.