Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.
Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.
Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.
Ymunwch â'n Gweinthlu Mewnol o fewn ein Tîm Cynnal a Chadw a gwnewch wahaniaeth go iawn i gartrefi a chymunedau ledled Gogledd Cymru. Byddwch yn darparu gwaith peintio ac addurno a gwaith aml grefft o safon uchel ar draws amrywiaeth eang o eiddo, gan gyfrannu at greu cartrefi diogel, cyfforddus a chroesawgar i'n tenantiaid.
Cyflawni ystod eang o waith atgyweirio, cynnal a chadw a gosod ar draws stoc eiddo Grŵp Cynefin, gan gynnwys cartrefi â thenantiaid ynddynt, eiddo gwag, mannau cymunedol a gwaith cytundebol arall. Sicrhau bod pob gwaith yn cael ei gyflawni'n ddiogel, yn effeithlon ac i'r safonau uchaf, gan gydymffurfio â rheoliadau, manylebau ac arferion gorau'r diwydiant. Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda thenantiaid, cydweithwyr a phartneriaid, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol a phrofiad cwsmer o'r radd flaenaf. Defnyddio technoleg a systemau digidol i reoli gwaith yn effeithiol, cofnodi gwybodaeth yn gywir a helpu i ddarparu gwasanaeth modern ac effeithlon. Gweithio fel rhan o dîm proffesiynol, cefnogol ac ymroddedig sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth bob dydd.
Os ydych yn ymfalchïo yn eich gwaith, yn mwynhau datrys problemau ac yn angerddol am ddarparu gwasanaeth rhagorol, hoffem glywed gennych.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch âg Elgan Evans, Rheolwr Gwasanaeth, ar 0300 111 2122.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £31,463 y flwyddyn
Lleoliad: Safleoedd Gwaith y Gymdeithas
Oriau Gweithio: 40 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Teithio: Darperir cerbyd ar gyfer defnydd busnes awdurdodedig.
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Disgrifiad Swydd
DS Peintiwr ac Addurnwr Aml Grefft 0926 2.pdf
JD Multi Skilled Painter and Decorator 0926 2.pdf
Buddiannau
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf
Privacy Notice Job Applicant.pdf
Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 02.11.26
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.
Peintiwr ac Addurnwr Aml Grefft / Multi Skilled Painter and Decorator in North Wales employer: Grŵp Cynefin
Grŵp Cynefin is an exceptional employer dedicated to building and maintaining homes while supporting tenants and communities across North Wales. With a strong focus on employee well-being, professional development, and a commitment to sustainable community growth, we offer a rewarding work culture that values passion and care. Join us in making a meaningful difference in people's lives while enjoying competitive benefits and a supportive team environment.