Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau.
Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.
Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd.
Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb.
Ymunwch â'n Tîm Cynnal a Chadw a chwaraewch ran allweddol wrth ddarparu cartrefi a chymunedau o safon uchel ledled Gogledd Cymru. Byddwch yn arwain drwy esiampl, gan gefnogi timau aml-grefft i gyflawni gwaith sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein tenantiaid.
-
Arwain a chefnogi gweithwyr aml grefft, prentisiaid ac isgontractwyr i gyflawni rhaglenni gwaith, buddsoddiadau, atgyweiriadau ymatebol a phrosiectau amrywiol yn llwyddiannus.
-
Cyfrannu'n ymarferol fel aelod o dîm aml-grefft medrus, gan weithio ar amrywiaeth eang o eiddo a phrosiectau ledled Gogledd Cymru.
-
Cydlynu ac arwain timau ar y safle i sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau'n ddiogel, i safon uchel ac o fewn targedau amser a chyllideb.
-
Hyrwyddo arferion gorau, ansawdd a chydymffurfiaeth, gan sicrhau bod pob gwaith yn bodloni'r safonau a'r rheoliadau perthnasol.
-
Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda thenantiaid, cydweithwyr a phartneriaid, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol a phrofiad cwsmer gwych.
-
Defnyddio technoleg a systemau digidol modern i reoli gwaith yn effeithiol a gwella perfformiad gwasanaethau.
Os ydych yn frwdfrydig am arwain pobl, yn ymfalchïo mewn gwaith o safon ac yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd amrywiol a phwrpasol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch âg Elgan Evans, Rheolwr Gwasanaeth, ar 0300 111 2122.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £35,905 y flwyddyn
Lleoliad: Safleoedd Gwaith y Gymdeithas
Oriau Gweithio: 40 awr yr wythnos
Gwyliau: 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn ynghyd â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Teithio: Darperir cerbyd ar gyfer defnydd busnes awdurdodedig.
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Disgrifiad Swydd
DS Goruchwyliwr Gweithredol 09.26.pdf
JD Working Supervisor 09.26.pdf
Buddiannau
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf
Privacy Notice Job Applicant.pdf
Guidelines for completing your application.pdf
Dyddiad y cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 02.11.26
Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio'ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.
Goruchwyliwr Gweithredol / Working Supervisor in North Wales employer: Grŵp Cynefin
Grŵp Cynefin is an exceptional employer dedicated to building and maintaining homes while supporting tenants and communities across North Wales. With a strong focus on employee well-being, professional development, and a commitment to sustainable community growth, we offer a rewarding work culture that values passion and care. Join us in making a meaningful difference in people's lives while enjoying competitive benefits and a supportive team environment.