Gweithiwr Cefnogaeth Lloches Cam-Drin Domestig/ Domestic Abuse Refuge Support Worker
Gweithiwr Cefnogaeth Lloches Cam-Drin Domestig/ Domestic Abuse Refuge Support Worker

Gweithiwr Cefnogaeth Lloches Cam-Drin Domestig/ Domestic Abuse Refuge Support Worker

Full-Time No home office possible
Grŵp Cynefin

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy’n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau. Rydyn ni’n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys.

Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni’n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo’r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.

Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin sy’n darparu gwasanaethau o safon i:

  • gefnogi pobl sy’n dioddef trais yn y cartref
  • gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd

Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Mae ein prosiectau’n cynnwys llochesi, cynlluniau tai â chefnogaeth, gwasanaethau plant a phobl ifanc, cefnogaeth yn y gymuned a gwasanaeth ymgynghorwyr annibynnol trais yn y cartref. Ar gyfartaledd rydym yn cefnogi hyd at 650 o bobl yr wythnos ac mae gennym dros 70 o staff cyflogedig proffesiynol.

Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych, Dolgellau a Blaenau Ffestiniog.

Gwasanaethau Trais yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Môn

Llochesi a chefnogaeth mewn argyfwng

Mae Gorwel yn darparu Gwasanaeth Trais yn y Cartref yng Ngwynedd ac Ynys Môn gan gynnwys pedair lloches mewn pedwar lleoliad cyfrinachol sydd yn llety argyfwng 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos i ferched a’u plant sydd yn dianc oddi wrth trais yn y cartref.

Cynllun Cefnogaeth Symudol

Mae’r Cynllun Cefnogaeth Symudol gennym yn cefnogi merched, dynion a’u teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Byddwch yn cefnogi ac ysgogi defnyddwyr gwasanaeth er mwyn llwyddo i fyw bywyd di-drais a’u helpu i adennill rheolaeth dros eu bywydau er mwyn hybu annibyniaeth.

Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.

Y Pecyn

Math o gytundeb: Parhaol

Cyflog: £25,227 -£27,565 y flwyddyn

Lleoliad: Ynys Mon

Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos

Gwyliau: 36 diwrnod y flwyddyn

Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol

Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010….. – merched yn unig fydd yn cael eu hystyried (dileu lle bo angen)

Disgrifiad Swydd

Cymraeg DS Gweithwraig Cefnogi Lloches 05.2026.pdf

Saesneg JD Domestic Abuse Refuge Support Worker 05.26.pdf

Buddiannau

Pecyn Buddion.pdf Benefits Package.pdf

Datblygiad Personol:

Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!


Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf

Privacy Notice Job Applicant.pdf

Canllawiau cwblhau cais.pdf

Guidelines for completing your application.pdf

Dyddiad y cyfweliadau: I’w gadarnhau

Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i roi gwybod i chi a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Cofiwch wirio’ch ffolder Sothach (junk) neu Sbam rhag ofn bod ein neges yn cael ei hidlo yno.

Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Byddwn yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.


Grŵp Cynefin

Contact Detail:

Grŵp Cynefin Recruiting Team

Gweithiwr Cefnogaeth Lloches Cam-Drin Domestig/ Domestic Abuse Refuge Support Worker
Grŵp Cynefin

Land your dream job quicker with Premium

You’re marked as a top applicant with our partner companies
Individual CV and cover letter feedback including tailoring to specific job roles
Be among the first applications for new jobs with our AI application
1:1 support and career advice from our career coaches
Go Premium

Money-back if you don't land a job in 6-months

>