At a Glance
- Tasks: Support tenants and manage housing services to create sustainable communities.
- Company: Grŵp Cynefin, dedicated to providing quality, safe, and affordable housing.
- Benefits: Competitive salary, 30 days holiday, and professional development opportunities.
- Other info: Dynamic role with excellent career growth and a focus on Welsh language.
- Why this job: Make a real difference in people's lives and contribute to community wellbeing.
- Qualifications: Experience in housing management and strong commitment to tenant support.
The predicted salary is between 31500 - 38500 £ per year.
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, sy’n ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybu’r iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau i’r eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd sy’n sicrhau dyfodol cynaliadwy. Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â’n tîm. Byddai profiad gweithredol o ddarparu rheolaeth tai a gwybodaeth neu ddealltwriaeth o'r maes tai cymdeithasol yn fantais, ond yn bwysicaf oll rydym yn chwilio am rywun sydd ag ymrwymiad cryf i gynorthwyo tenantiaid a darparu gwasanaeth rhagorol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r person cywir a rhywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd prysur ac yn frwdfrydig i wneud gwahaniaeth. Bydd deilydd y swydd yn gweithredu fel y prif gyswllt i’r Gymdeithas ar gyfer tenantiaid, darpar denantiaid a’r gymuned leol yn gyffredinol gan sicrhau gwasanaeth rheolaeth tai effeithiol fel bo Grŵp Cynefin yn rhagori.
Bydd y rol yn cynnwys:
- gosod eiddo yn deg ac yn effeithiol;
- uchafu incwm rhent y Gymdeithas;
- delio ag ymddygiad gwrth gymdeithasol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni. Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Pecyn Math o gytundeb:
- Parhaol
- Cyflog: £29,779 - £33,515 y flwyddyn
- Lleoliad: Dinbych a gweithio o gartref
- Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
- Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â’r gwyliau banc statudol a’r cyfnod rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd
- Teithio: Defnyddiwr Car Hanfodol
- Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Datblygiad Personol: Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a’ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i’ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o’r rhain bob blwyddyn i’ch helpu i aros yn gysylltiedig â’r wybodaeth a’r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i’n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi’n gweithio gyda ni byddwn ni’n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol:
- Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeisydd Swydd.pdf
- Canllawiau cwblhau cais.pdf
- Dyddiad y cyfweliadau: I'w gadarnhau
- Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS): Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Swyddog Tai / Housing Officer in Denbigh employer: Grówp Cynefin
Grŵp Cynefin is an exceptional employer that prioritises the well-being of its employees while fostering a supportive and collaborative work culture. With opportunities for professional growth and a commitment to community service, working from home or in locations like Penygroes or Denbigh offers flexibility and a chance to make a meaningful impact in the lives of tenants and their families.