Council Member

Helpu i lunio dyfodol rheoleiddio fferylliaeth ym Mhrydain Fawr.

Dyddiad cau: 15 Tachwedd 2026 (11:59pm)

Dyddiadau cyfweliad: 15 Rhagfyr 2026 (swyddfa GPhC)

Cyflog: Mae aelodau y Cyngor yn derbyn £15,000 y flwyddyn, yn amodol ar ddidyniadau cymwys ar gyfer treth incwm cynllun Talu Wrth Ennill a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Lleoliad: Cynhelir cyfarfodydd yn Llundain fel arfer, ond mae’n debygol y bydd angen ichi deithio i leoedd eraill o bryd i’w gilydd (er enghraifft, ar gyfer diwrnodau i ffwrdd neu gyfarfodydd Cyngor a cynhelir yng Nghymru neu’r Alban).

Oriau: Cyfanswm yr ymrwymiad amser i aelodau’r Cyngor fydd hyd at 30 diwrnod y flwyddyn.

Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) yw’r rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer fferyllwyr, technegwyr fferylliaeth a fferyllfeydd cofrestredig ledled Prydain Fawr. Rydym yn chwarae rôl hanfodol o ran diogelu cleifion a’r cyhoedd drwy osod safonau, cynnal y gofrestr fferyllfeydd a sicrhau ymarfer proffesiynol.

Rydym yn chwilio am unigolyn rhagorol i ymuno â Chyngor GPhC fel Aelod lleyg sy’n byw neu’n sy’n gweithio’n gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru, a bydd tymor y swydd yn dechrau ym mis Ebrill 2027. Y Cyngor yw corff llywodraethu GPhC ac mae’n gyfrifol am osod ein cyfeiriad strategol, monitro ein perfformiad a sicrhau ein bod yn cynnal ein gwerthoedd a’n cyfrifoldebau statudol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at ddyfodol rheoleiddio fferylliaeth ar adeg o newid sylweddol ar draws gofal iechyd a chymdeithasol, gan gynnwys rôl gynyddol fferylliaeth mewn gofal sylfaenol, datblygiadau mewn cyfrifoldebau presgripsiunu a datblygiadau mewn gofal iechyd digidol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • Yn dangos dealltwriaeth o weithio o fewn fframweithiau rheoleiddio, llywodraethu neu fframweithiau proffesiynol eraill.
  • Yn dod ag ymrwymiad i lywodraethu, atebolrwydd ac arweinyddiaeth strategol da.
  • Yn dangos meddwl dadansoddol cryf, barn gadarn a sgiliau gwneud penderfyniadau effeithiol.
  • Yn cyfathrebu’n effeithiol, yn cydweithredu ac yn cyfrannu’n adeiladol at drafodaethau a dadleuon.
  • Yn dangos unitydeb, parch ac ymrwymiad diysgog i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

#J-18808-Ljbffr

Council Member employer: General Pharmaceutical Council (GPhC)

The General Pharmaceutical Council (GPhC) is an excellent employer, offering a dynamic work environment where your contributions directly impact public safety and confidence in pharmacy practices across Great Britain. With a strong emphasis on professional development, employees benefit from ongoing training and growth opportunities, fostering a culture of collaboration and innovation. Located at the heart of the healthcare sector, GPhC provides a unique chance to engage with diverse stakeholders while making a meaningful difference in the community.

G

Contact Details:

General Pharmaceutical Council (GPhC) Recruitment Team