Peirianneg Drydanol (0.5 awr) in Swansea

Peirianneg Drydanol (0.5 awr) in Swansea

Swansea Full-Time On-site
G

Peirianneg Drydanol (0.5 awr)

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.

Darlithydd Peirianneg

  • £13,193 - £25,965 y flwyddyn

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cynllunio a chyflwyno gwersi theori ac ymarferol o ansawdd uchel ar draws pynciau peirianneg drydanol craidd, megis cylchedau, gosod, profi, archwilio a chynnal a chadw, yn unol â’r cwricwlwm a safonau’r corff dyfarnu.
  • Asesu a monitro cynnydd dysgwyr, gan gynnal asesiadau ffurfiannol a chrynodol, darparu adborth adeiladol a chefnogi dysgwyr i gwblhau eu cymwysterau’n llwyddiannus.
  • Cynnal amgylchedd dysgu diogel a threfnus, gan sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau Iechyd a Diogelwch, defnyddio offer yn ddiogel a hyrwyddo arferion peirianneg da.
  • Cymhwyster perthnasol mewn peirianneg drydanol, e.e. Gosod Trydanol Lefel 3+, HNC/HND, gradd neu brofiad cyfatebol yn y diwydiant.
  • Profiad yn y sector peirianneg, gyda chymhwysedd technegol cryf a gwybodaeth gyfredol am y diwydiant.
  • Sgiliau addysgu, cyfathrebu a threfnu cryf, gyda’r gallu i ymgysylltu â dysgwyr o alluoedd gwahanol a chefnogi eu cynnydd.
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
  • Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025).
  • 2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn.
  • Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
  • Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn yn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
  • Cyflog Cyfatebol Amser Llawn y swydd hon yw £26,386 - £51,931 y flwyddyn (yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad).

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg

I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu

Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

  • Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
  • Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).

#J-18808-Ljbffr

Peirianneg Drydanol (0.5 awr) in Swansea employer: Gcs Training Limited

Gower College Swansea is an exceptional employer, renowned for its commitment to staff wellbeing and professional development. With a vibrant work culture that prioritises collaboration and support, employees benefit from generous leave, a robust pension scheme, and opportunities for discounted study, all within a dynamic educational environment that fosters growth and engagement with learners.

G

Contact Details:

Gcs Training Limited Recruitment Team