Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Rydym yn chwilio am Hyfforddwr y Gymraeg i gefnogi dysgwyr sy’n astudio pynciau galwedigaethol. Byddwch yn darparu cymorth i ddysgwyr drwy sesiynau unigol a sesiynau grwp, gan weithio’n agos a staff addysgu a Rheolwyr Maes Dysgu i hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y Coleg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o fewn rhai o’r meysydd cwricwlwm canlynol:
Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus a Chwaraeon, Celfyddydau Gweledol, Diwydiannau Creadigol a Busnes.
Nodwch eich meysydd dysgu dewisol yn eich datganiad personol.
- Amser Llawn (37 awr yr wythnos)
- Yn ystod y tymor (40 wythnos y flwyddyn)
- Ar draws ein campysau yn Abertawe
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cefnogi dysgwyr sydd â phryderon ynghylch symud o addysg cyfrwng Cymraeg, cymhelliant a dysgu’n ddwyieithog, gan greu amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol.
- Cynnal sesiynau un-i-un â dysgwyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn deall eu hanghenion iaith, academaidd a chymorth, gan ddarparu cyngor, arweiniad, adnoddau a chyfleoedd priodol iddynt.
- Cynllunio a darparu sesiynau grwp o ansawdd uchel sy'n helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y tu hwnt i'w cymhwyster, gan wella cyfranogiad mewn modd gweithredol a chefnogi eu taith ddysgu ddwyieithog.
- Siaradwr Cymraeg rhugl - B2/Uwch (gweler y fframwaith cymhwysedd ynghlwm)
- Digon o hyder i gyfathrebu yn glir ac yn effeithio gydag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd (gan gynnwys pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid, sefydliadau allanol, staff academaidd) gan gynnig cyflwyniadau sy’n denu’r llygad.
- Profiad o hyrwyddo’r Gymraeg a mentora pobl ifanc.
- Y gallu i fod yn rhagweithiol, dyfeisgar a gweithio ar eich liwt eich hun.
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (cyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd)
- 2 Ddiwrnod Lles i staff bob blwyddyn
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
- Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
- Cyflog Amser Llawn: £26,476 - £28,822 y flwyddyn.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
- Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
- Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).
#J-18808-Ljbffr
Hyfforddwr y Gymraeg in Swansea employer: Gcs Training Limited
Gower College Swansea is an exceptional employer, renowned for its commitment to staff wellbeing and professional development. With a vibrant work culture that prioritises collaboration and support, employees benefit from generous leave, a robust pension scheme, and opportunities for discounted study, all within a dynamic educational environment that fosters growth and engagement with learners.