Gyrrwr Bysiau Mini in Swansea

Gyrrwr Bysiau Mini in Swansea

Swansea Full-Time On-site
G

Rydym yn chwilio am yrwyr i gefnogi ein rhaglenni academi chwaraeon, SBA yn ogystal â meysydd eraill. Byddwch yn cludo dysgwyr i weithgareddau ac o gampws i gampws. Oherwydd bod gofynion y swydd yn gofyn ichi yrru bysiau mini a cherbydau eraill y Coleg, rhaid ichi fod yn unigolyn cydwybodol, hawdd mynd ato a hyblyg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfathrebwr da ac yn hyderus yn gweithio gyda phobl ifanc. Byddai meddu ar gymhwyster cymorth cyntaf a codi a chario yn fanteisiol.

Mae trwydded yrru lawn, glân yn hanfodol ar gyfer y swydd hon ac, yn ddelfrydol, bydd gennych drwydded Categori D1. Byddwch hefyd yn ymrwymedig i ymgymryd â hyfforddiant MIDAS fel rhan o’r swydd.

Mae'r swydd hon ar gyfer oriau ad-hoc yn ôl y gofyn gan adrannau. Byddwch yn cael eich talu mewn ôl-daliadau.

  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
  • 2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
  • Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.

Gwybodaeth Bellach
Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.

Amrywiaeth a Chynhwysiant Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

  • Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
  • Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).

#J-18808-Ljbffr

G

Contact Details:

Gcs Training Limited Recruitment Team