Goruchwyliwr Siop Goff in Swansea

Goruchwyliwr Siop Goff in Swansea

Swansea Full-Time On-site
G

Goruchwyliwr Siop Goff

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Oruchwyliwr Siop Goffi dibynadwy, brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â’n tîm arlwyo yn Tycoch. Gan weithio’n agos gyda’r Rheolwr Arlwyo, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod y Siop Goffi yn rhedeg yn llyfn ac yn llwyddiannus o ddydd i ddydd.

Yn ystod y tymor yn unig - 36 wythnos y flwyddyn

Dim gwaith penwythnos

Pythefnos o wyliau dros gyfnod y Nadolig

Parcio am ddim ar y safle

Dau ddiwrnod lles bob blwyddyn

Amrywiaeth eang o weithgareddau lles i staff, gan gynnwys dosbarthiadau ffitrwydd, hypnotherapi, tylino chwaraeon, caffis menopos a chyngor ar faeth ac ymarfer corff

Aelodaeth ganolfan chwaraeon am bris gostyngol i chi a’ch teulu

Amgylchedd gwaith cefnogol a chadarnhaol mewn coleg addysg bellach blaenllaw

Eich oriau gwaith:

Cyfrifoldebau Allweddol

Goruchwylio a chefnogi staff arlwyo, gan gynnwys dyletswyddau staff, cylchdroi tasgau ac egwyliau cinio.

Helpu i sicrhau bod y Siop Goffi yn rhedeg yn effeithiol o ddydd i ddydd, gan gynnwys agor, cau, gwasanaethu a diogelwch.

Archebu, derbyn, storio a chylchdroi stoc, gan sicrhau bod y Siop Goffi wedi’i stocio’n ddigonol a bod gwastraff yn cael ei leihau.

Paratoi a gweini amrywiaeth o fwyd a diodydd, gan gynnwys paratoi eitemau syml fel bagéts, saladau, brecwast ac eitemau wedi’u pobi.

Cynnal safonau rhagorol o hylendid bwyd, glendid, cyflwyniad a gwasanaeth cwsmeriaid.

Gweithredu’r til arian parod, cofnodi gwerthiannau a chysoni’r til yn unol â gweithdrefnau ariannol.

Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Arlwyo i gynnal safonau uchel a sicrhau bod gweithdrefnau’r Coleg yn cael eu dilyn.

Bydd gennych dystysgrif hylendid bwyd sylfaenol neu byddwch yn barod i weithio tuag at un.

Bydd gennych brofiad blaenorol o ymdrin ag arian, ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth o systemau a gweithdrefnau mewn amgylchedd arlwyo, bwyd neu ddiod.

Bydd gennych brofiad o baratoi a gweini bwyd mewn amgylchedd arlwyo prysur, ynghyd â phrofiad goruchwylio blaenorol.

Byddwch yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun, gweithio’n dda fel rhan o dîm, addasu i newid a dangos sgiliau rhyngbersonol da.

Bydd gennych agwedd broffesiynol, sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da, ymrwymiad i ansawdd, a byddwch yn ddibynadwy ac yn hyblyg.

28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.

Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025)

Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025)

2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn

Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg

Gwybodaeth Bellach

Amrywiaeth a Chynhwysitant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)

Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).

#J-18808-Ljbffr

Goruchwyliwr Siop Goff in Swansea employer: Gcs Training Limited

Gower College Swansea is an exceptional employer, renowned for its commitment to staff wellbeing and professional development. With a vibrant work culture that prioritises collaboration and support, employees benefit from generous leave, a robust pension scheme, and opportunities for discounted study, all within a dynamic educational environment that fosters growth and engagement with learners.

G

Contact Details:

Gcs Training Limited Recruitment Team