Technegydd Gweithdy Peirianneg
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i benodi Technegydd Gweithdy Peirianneg i ymuno â’r adran Beirianneg yng Ngholeg Gwyr Abertawe.
Bydd deiliad y swydd yn cynhyrchu a pharatoi deunyddiau dysgu ar gyfer gwersi, trefnu’r adnoddau sydd eu hangen, a sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn ddiogel. Byddwch hefyd yn sicrhau bod yr holl offer yn eu priod le ac yn barod i’w defnyddio yn ystod gwersi.
Amser Llawn (37 awr yr wythnos) / Rhan-amser (X awr yr wythnos)
Parhaol / Cyfnod Penodol
£X - £X y flwyddyn
Cyfrifoldebau Allweddol
Cynnal a chadw ac atgyweirio adnoddau addysgu yn rheolaidd, gan adrodd unrhyw ddiffygion sy’n effeithio ar iechyd a diogelwch neu argaeledd adnoddau.
Cynorthwyo’r Arweinydd Cwricwlwm i brynu adnoddau addysgu, gan gydymffurfio â pholisïau’r Coleg, cadw at gyllidebau a rheoli stoc yn effeithiol.
Paratoi cymhorthion addysgu sydd wedi’u cymeradwyo gan y tîm er mwyn cynnig amrywiaeth eang o brofiadau dysgu i ddysgwyr.
Cynhal amgylchedd gwaith diogel i staff a myfyrwyr drwy wirio gweithdai’n ddyddiol, cynnal ardaloedd gwaith, rheoli gwastraff a sicrhau bod yr amgylchedd dysgu yn cydymffurfio ag Iechyd a Diogelwch.
Cymhwyster Lefel 3 mewn maes perthnasol neu barodrwydd i ennill cymhwyster weldio, platiwr neu beirianneg.
Ymwybyddiaeth o broblemau mecanyddol a pheryglon sy’n gysylltiedig â pheiriannau, ynghyd ag ymrwymiad i Iechyd a Diogelwch.
Sgiliau datrys problemau effeithiol, gyda’r gallu i weithio i derfynau amser a rhoi sylw manwl i fanylder.
Sgiliau gweinyddu cadarn, y gallu i drefnu llwyth gwaith, cwblhau dogfennaeth a chyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth eang o bobl.
Y gallu i deithio o gampws i gampws ac i ddigwyddiadau amrywiol, ynghyd â pharodrwydd i weithio oriau anghymdeithasol pan fo angen.
28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 28.68% ar gyfartaledd (2025).
2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â hyfforddiant Ymatebwr Cyntaf ac ymgymryd â dyletswyddau cysylltiedig. Ar ôl cwblhau'r hyfforddiant, byddwch yn derbyn £50 y mis.
Fel arfer, gwneir penodiadau i waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn, yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.
Yr Iaith Gymraeg
I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Diogelu
Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:
Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).
#J-18808-Ljbffr
Technegydd Gweithdy Peirianneg in Gorseinon employer: Gcs Training Limited
Gower College Swansea is an exceptional employer, renowned for its commitment to staff wellbeing and professional development. With a vibrant work culture that prioritises collaboration and support, employees benefit from generous leave, a robust pension scheme, and opportunities for discounted study, all within a dynamic educational environment that fosters growth and engagement with learners.