At a Glance
- Tasks: Lead data management and assurance for a new national regulator in Wales.
- Company: National Regulator for Unused Mine and Quarry Waste in Wales.
- Benefits: Competitive salary, professional development, and a chance to make a real impact.
- Other info: Join a diverse team committed to public service and continuous improvement.
- Why this job: Shape the future of community safety and environmental protection in Wales.
- Qualifications: Experience in data, digital environments, and leadership roles.
The predicted salary is between 75600 - 92400 £ per year.
Cyfarwyddwr Data a Sicrwydd
Adeiladu Rheoleiddiwr Cenedlaethol Newydd Cymru. Amddiffyn Cymunedau. Gadael Etifeddiaeth Barhaol
Mae pawb yng Nghymru yn haeddu teimlo'n ddiogel rhag y risgiau a achosir gan domenni nas defnyddir ansefydlog.
Lleoliad: Bydd pencadlys yr Awdurdod ym Mharc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ. Hwn fydd y prif fan gwaith a lle bydd y rhan fwyaf o gydweithwyr yn dod at ei gilydd i gydweithio â'i gilydd a chyda rhanddeiliaid.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu'r swyddfa ym Merthyr Tudful yn rheolaidd i cefnogi cydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Mae Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru yn cael ei sefydlu o dan Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol ar gyfer diogelwch, rheoli a rheoleiddio tomenni nas defnyddir. Fel rheoleiddiwr cenedlaethol newydd Cymru, bydd yr Awdurdod yn darparu dull cyson, sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth ac sy’n seiliedig ar risg o reoli risg tomenni nas defnyddir a helpu i amddiffyn cymunedau ledled Cymru.
Yn y cyd-destun hwn, mae'r Cyfarwyddwr Data a Sicrwydd yn chwarae rôl arweinyddiaeth gweithredol allweddol wrth sicrhau bod yr Awdurdod yn deall risg yn glir, yn gweithredu'n hyderus ar sail tystiolaeth, ac yn dangos bod risgiau'n cael eu rheoli'n gweithredol ledled Cymru.
Mae'r rôl hon yn sylfaenol i greu sefydliad lle mae:
- Y sefyllfa risg genedlaethol yn cael ei deall a'i chyfleu'n glir
- Data yn gywir ac yn ddibynadwy, ac yn llywio pob penderfyniad
- Technoleg yn galluogi monitro effeithiol a mewnwelediad
- Cynlluniau Rheoli a rhaglenni cynnal a chadw yn cael eu datblygu a'u cyflawni'n effeithiol
- Y sefydliad yn gweithredu fel canolfan ragoriaeth gydnabyddedig mewn data, tystiolaeth ac arweinyddiaeth dechnegol
Fel aelod o'r Tîm Gweithredol, mae gan ddeiliad y swydd rôl hanfodol wrth lunio hyder sefydliadol, cefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac atgyfnerthu diwylliant o gywirdeb, tryloywder a dysgu parhaus.
- Arwain y gwaith o ddatblygu a rheoli cofrestr genedlaethol, systemau data ac asedau gwybodaeth yr Awdurdod.
- Sicrhau bod gan Gymru ddealltwriaeth glir, gywir a seiliedig ar dystiolaeth o risg tomenni nas defnyddir.
- Darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer arloesedd digidol, ymchwil, safonau a sicrwydd technegol.
- Goruchwylio'r gwaith o ddatblygu cynlluniau rheoli a rhaglenni cynnal a chadw, gan sicrhau eu bod yn cael eu llywio gan risg a thystiolaeth.
- Darparu sicrwydd i'r Prif Weithredwr, y Bwrdd a Llywodraeth Cymru ynghylch dealltwriaeth yr Awdurdod o risg a'r modd y mae'n ei rheoli.
Byddwch yn helpu i greu corff cyhoeddus y gellir ymddiried ynddo, sy'n cael ei arwain gan dystiolaeth ac sy'n uchel ei berfformiad, gan roi hyder bod risgiau tomenni nas defnyddir ledled Cymru yn cael eu deall, eu monitro a'u rheoli'n effeithiol.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Rydym yn chwilio am arweinydd gweithredol profiadol sydd â chefndir cryf mewn amgylcheddau data, digidol, ymchwil, sicrwydd neu ddadansoddol, ac sydd â llwyddiant blaenorol o arwain swyddogaethau cymhleth mewn lleoliadau sy'n hanfodol o ran diogelwch, neu leoliadau rheoleiddiol, technegol neu seilwaith.
Byddwch yn dod â:
- Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (e.e. Gwyddor Data, Rheoli Gwybodaeth, Cyfrifiadureg, Dadansoddi Gofodol, Peirianneg, Gwyddor Amgylcheddol, Rheoli Rhaglenni neu faes cysylltiedig) neu brofiad proffesiynol sylweddol cyfatebol.
- Phrofiad sylweddol o arwain swyddogaethau data, digidol, ymchwil neu sicrwydd.
- Profiad o reoli systemau gwybodaeth cymhleth, sylfeini tystiolaeth neu raglenni technegol.
- Hanes blaenorol o sbarduno gwelliant sefydliadol drwy wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Profiad o weithio gyda Byrddau, y Llywodraeth ac uwch randdeiliaid.
- Sgiliau arwain, dylanwadu a chyfathrebu cryf.
- Ymrwymiad i gydweithredu, gwelliant parhaus a gwasanaeth cyhoeddus.
- Mae statws siartredig neu aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol (er enghraifft disgyblaethau data, digidol, technoleg, gwybodaeth, peirianneg neu'r maes geo-ofodol) yn ddymunol.
Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol. Rydym wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad sy'n gynyddol amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu.
#J-18808-Ljbffr
Director Of Data & Assurance in Merthyr Tydfil employer: GatenbySanderson
GatenbySanderson is an exceptional employer that champions innovation and inclusivity within the digital services sector. With a strong commitment to employee development, we offer robust growth opportunities and a collaborative work culture that values diverse perspectives. Located at the heart of national strategy initiatives, our team enjoys the unique advantage of influencing impactful public services while working in a supportive environment that prioritises user-centric solutions.