Cyfarwyddwr Llywodraethu a Pherfformiad
Adeiladu Rheoleiddiwr Cenedlaethol Newydd Cymru. Amddiffyn Cymunedau. Gadael Etifeddiaeth Barhaol
Mae pawb yng Nghymru yn haeddu teimlo’n ddiogel rhag y risgiau a achosir gan domenni nas defnyddir ansefydlog.
Lleoliad:
Bydd pencadlys yr Awdurdod ym Mharc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu'r swyddfa ym Merthyr Tudful yn rheolaidd i cefnogi cydweithio ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Mae Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru yn cael ei sefydlu o dan Ddeddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol ar gyfer diogelwch, rheoli a rheoleiddio tomenni nas defnyddir. Fel rheoleiddiwr cenedlaethol newydd Cymru, bydd yr Awdurdod yn darparu dull cyson, sy’n cael ei arwain gan dystiolaeth ac sy’n seiliedig ar risg o reoli risg tomenni nas defnyddir a helpu i amddiffyn cymunedau ledled Cymru.
Yn y cyd-destun hwn, mae'r Cyfarwyddwr Llywodraethu a Pherfformiad yn chwarae rôl ganolog nid yn unig wrth sicrhau llywodraethu a sicrwydd cadarn, ond hefyd wrth lunio sut y mae'r sefydliad yn gweithredu, yn gwneud penderfyniadau ac yn dwyn ei hun i gyfrif.
Mae'r rôl hon yn sylfaenol i greu a chynnal amgylchedd lle mae:
- Penderfyniadau yn cael eu gwneud yn glir, yn hyderus ac yn dryloyw
- Perfformiad yn cael ei ddeall, ei ategu gan dystiolaeth a'i wella'n barhaus
- Polisïau gweithredol yn cael eu datblygu, eu gweithredu a'u rhannu'n genedlaethol
- Llywodraethu yn galluogi cyflawni yn hytrach na'i gyfyngu
- Y sefydliad yn gweithredu ag uniondeb, yn agored a chyda phroffesiynoldeb
Fel aelod o'r Tîm Gweithredol, mae gan ddeiliad y swydd rôl arweinyddiaeth hanfodol wrth osod tôn, llunio diwylliant a modelu ymddygiad, gan sicrhau bod yr Awdurdod nid yn unig yn effeithiol o ran yr hyn y mae'n ei gyflawni, ond hefyd yn gorff y gellir ymddiried ynddo o ran y ffordd y mae'n gweithredu.
Tasgau Allweddol:
A chithau'n Gyfarwyddwr Llywodraethu a Pherfformiad, byddwch yn darparu arweinyddiaeth weithredol ar gyfer swyddogaethau llywodraethu, polisi gweithredol, perfformiad, cyllid a sicrwydd yr Awdurdod, gan sicrhau bod gan y sefydliad y fframweithiau, y rheolaethau, y mewnwelediad a'r atebolrwydd sydd eu hangen i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol ac i wireddu ei uchelgeisiau strategol.
Fel un o Gyfarwyddwyr Gweithredol sefydlu'r Awdurdod, byddwch yn chwarae rôl arweiniol wrth sefydlu rheoleiddiwr cenedlaethol newydd, gan lunio'r sefydliad a'r systemau sy'n cefnogi llywodraethu effeithiol, perfformiad sefydliadol a hyder y cyhoedd.
- disgyblaeth berthnasol (e.e. Llywodraethu, Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Rheoli Busnes, Cyllid, y Gyfraith, Datblygu Sefydliadol neu faes cysylltiedig) neu brofiad proffesiynol cyfatebol sylweddol.
- Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu fframwaith llywodraethu a sicrwydd yr Awdurdod.
- Sicrhau bod trefniadau llywodraethu yn galluogi gwneud penderfyniadau, atebolrwydd a chyflawni effeithiol.
- Darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer polisi gweithredol, perfformiad sefydliadol a gwelliant parhaus.
- Goruchwylio trefniadau rheoli risg, stiwardiaeth ariannol a sicrwydd sefydliadol.
- Darparu hyder a sicrwydd i'r Prif Weithredwr, y Bwrdd a Llywodraeth Cymru ynghylch perfformiad sefydliadol, llywodraethu a stiwardiaeth adnoddau cyhoeddus.
Byddwch yn helpu i greu corff cyhoeddus atebol y gellir ymddiried ynddo ac sy'n uchel ei berfformiad, sy'n gweithredu ag uniondeb, tryloywder a phroffesiynoldeb ac sy'n darparu gwerth cyhoeddus parhaol i bobl Cymru.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am arweinydd gweithredol profiadol sydd â chefndir cryf mewn llywodraethu, perfformiad sefydliadol, cyllid, sicrwydd neu atebolrwydd yn y sector cyhoeddus, ynghyd â hanes profedig o arwain swyddogaethau cymhleth mewn amgylcheddau sy’n destun craffu uchel ac sy’n atebol i’r cyhoedd.
Byddwch yn meddu ar:
- Gradd mewn disgyblaeth berthnasol (e.e. Llywodraethu, Gweinyddiaeth Gyhoeddus, Rheoli Busnes, Cyllid, y Gyfraith, Datblygu Sefydliadol neu faes cysylltiedig) neu brofiad proffesiynol cyfatebol sylweddol.
- Profiad sylweddol o arwain swyddogaethau llywodraethu, perfformiad, sicrwydd neu gyllid.
- Profiad o ddatblygu a gweithredu fframweithiau llywodraethu a sicrwydd sefydliadol.
- Profiad o weithio gyda Byrddau, Gweinidogion a rhanddeiliaid uwch.
- Hanes profedig o wella perfformiad ac atebolrwydd sefydliadol.
- Crebwyll cadarn, ynghyd â sgiliau dylanwadu a chyfathrebu cryf.
- Ymrwymiad i dryloywder, gwelliant parhaus a gwasanaeth cyhoeddus.
- Mae statws siartredig neu aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol (er enghraifft mewn disgyblaethau llywodraethu, cyllid, archwilio, datblygu sefydliadol, risg neu weinyddiaeth gyhoeddus) yn ddymunol.
Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol. Rydym wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad sy'n gynyddol amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu.
#J-18808-Ljbffr
Director of Governance & Performance employer: GatenbySanderson
GatenbySanderson is an exceptional employer that champions innovation and inclusivity within the digital services sector. With a strong commitment to employee development, we offer robust growth opportunities and a collaborative work culture that values diverse perspectives. Located at the heart of national strategy initiatives, our team enjoys the unique advantage of influencing impactful public services while working in a supportive environment that prioritises user-centric solutions.