At a Glance
- Tasks: Lead the finance department and develop financial strategies for long-term sustainability.
- Company: Esgobaeth Bangor, serving communities across North and Mid Wales.
- Benefits: Opportunity to shape financial leadership and governance in a key period of change.
- Other info: Fluency in Welsh and English is essential.
- Why this job: Join at a pivotal time to make a real impact on financial management and community support.
- Qualifications: Recognised accounting qualification and significant experience in senior finance roles.
The predicted salary is between 44595 - 54505 £ per year.
Mae Esgobaeth Bangor yn chwilio am weithiwr cyllid proffesiynol, profiadol a chymwysedig i fod yn Bennaeth Cyllid newydd arni. Mae Esgobaeth Bangor yn gwasanaethu cymunedau ledled Gogledd-orllewin a Chanolbarth Cymru. Drwy Dîm Deiniol, mae’r Esgobaeth yn darparu cymorth ym meysydd cyllid, llywodraethu, diogelu, eiddo, gweinyddu a gweithrediadau i Ardaloedd Gweinidogaeth, clerigion, ymddiriedolwyr a gweithgareddau esgobaethol.
Fel uwch arweinydd proffesiynol yr Esgobaeth ym maes rheolaeth ariannol, bydd y Pennaeth Cyllid yn gweithio’n agos gydag Ysgrifennydd yr Esgobaeth, yr Esgob a’r ymddiriedolwyr. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweinyddiaeth ariannol strategol, yn cryfhau cynllunio a rheolaethau ariannol, ac yn helpu i sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor yr Esgobaeth.
Mae’r swydd yn cynnwys:
- Arwain yr adran gyllid a datblygu’r tîm cyllid
- Cynghori’r ymddiriedolwyr ac uwch arweinwyr ar strategaeth ariannol, perfformiad, risgiau ac opsiynau
- Arwain y gwaith o gyllidebu’n flynyddol, cynllunio ariannol tair blynedd, rhagweld a modelu senarios
- Goruchwylio cyfrifon rheoli, adrodd statudol, archwilio a chydymffurfiaeth reoleiddiol
- Darparu goruchwyliaeth strategol dros gronfeydd wrth gefn, llif arian, buddsoddiadau a rheolaeth y trysorlys
- Cryfhau systemau, rheolaethau a threfniadau llywodraethu ariannol
- Cynorthwyo Ardaloedd Gweinidogaeth i ddatblygu arferion ariannol cadarn a chynaliadwy
- Goruchwylio’r gwasanaethau ariannol a ddarperir i elusennau, ymddiriedolaethau, byrddau a chronfeydd eraill a gefnogir gan Dîm Deiniol
Mae’r Esgobaeth yn cychwyn ar gyfnod newydd pwysig, gan adeiladu ar adolygiad llywodraethu diweddar a’r newidiadau cadarnhaol sydd eisoes ar waith. Mae cyfrifoldebau cliriach, goruchwyliaeth gryfach ac ymrwymiad ar y cyd i atebolrwydd yn gosod sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol.
Mae hwn yn gyfle rhagorol i ymuno â’r Esgobaeth ar adeg allweddol ac i helpu i lunio ei harweinyddiaeth ariannol, ei llywodraethu a’i chynaliadwyedd hirdymor, gan sicrhau bod ei hadnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol i gefnogi cenhadaeth a gweinidogaeth ledled yr Esgobaeth.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster cyfrifyddu a gydnabyddir gan CCAB, megis ACA, ACCA neu CIPFA, a phrofiad sylweddol ers ennill y cymhwyster mewn swydd gyllid uwch. Bydd angen iddynt ddangos galluoedd strategol, technegol ac arwain cadarn, ynghyd â’r gallu i egluro materion ariannol cymhleth yn glir i ystod eang o gynulleidfaoedd. Mae rhuglder yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Pennaeth Cyllid | Head of Finance in Bangor employer: Esgobaeth Bangor Diocese
Esgobaeth Bangor is an exceptional employer, offering a supportive work culture that values collaboration and professional growth. With a commitment to community service and financial stewardship, employees benefit from opportunities to develop their skills in a meaningful role that directly impacts the local community. The strategic location provides a unique blend of cultural richness and natural beauty, making it an ideal place for those seeking a rewarding career in finance.