Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gymraeg Bro Helyg / Ysgol Gymraeg Tredegar
Salary: Arweinyddion L8 - L12 - £64,804 - £71,507 Y Flwyddyn
Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion ym Mlaenau Gwent. Wedi'i lleoli ar gyrion Brynmawr, mae'r ysgol yn cynnig adeiladau modern eang ac adnoddau rhagorol, ac mae'n elwa ar rwydwaith ffyrdd yr A465 sy'n sicrhau bod modd teithio'n hwylus o Gasnewydd, Caerdydd, Abertawe a rhanbarth ehangach De-ddwyrain Cymru. Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn ysgol agored a chyfeillgar gyda staff ymroddedig sy'n gweithio'n galed i greu ethos cadarnhaol a gofalgar. Datganiad cenhadaeth yr ysgol yw\"Gosod sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol disglair.\"
Mae'r ysgol hefyd yn cynnal darpariaeth ysgol egin, Ysgol Gymraeg Tredegar, yn nhref Tredegar mewn adeilad pwrpasol. Ar hyn o bryd mae'r ddarpariaeth yn gwasanaethu tua 32 o blant ac mae'n gweithredu o dan lywodraethwyr Ysgol Gymraeg Bro Helyg, gyda thîm staff ymroddedig ac uwch arweinydd eisoes yn ei le. Mae'r ysgol hefyd yn cynnal darpariaeth ysgol egin, Ysgol Gymraeg Tredegar, yn nhref Tredegar mewn adeilad pwrpasol. Ar hyn o bryd mae'r ddarpariaeth yn gwasanaethu tua 74 o blant ac mae'n gweithredu o dan lywodraethiant Ysgol Gymraeg Bro Helyg, gyda thîm staff ymroddedig ac uwch arweinydd eisoes yn ei le.
Mae'r Llywodraethwyr yn ceisio penodi Dirprwy Bennaeth sy'n ymarferydd rhagorol ac sy'n ymrwymedig i ddatblygu addysgu a dysgu o'r safon uchaf. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ysgol yn darparu'r cyfleoedd gorau i'n holl ddysgwyr ac sy'n chwarae rhan gweithredol yn ehangu a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent ac ar draws y rhanbarth ehangach.
Mae'r Llywodraethwyr wedi ymrwymo i benodi Dirprwy Bennaeth sydd:
- Yn arweinydd ysbrydoledig ac effeithiol iawn gyda gweledigaeth glir ar gyfer rhagoriaeth mewn addysgu, dysgu a lles.
- Yn meddu ar hanes profedig o wella safonau a deilliannau ar gyfer pob dysgwr.
- Yn rhannu ein hymrwymiad i gynhwysiant, tegwch a llwyddiant pob plentyn.
- Yn dangos ymrwymiad cryf i arfer cynhwysol a rhagoriaeth mewn darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan sicrhau bod pob dysgwr, beth bynnag fo'u anghenion neu'u galluoedd, yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni eu potensial llawn.
- Yn arddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol, gan feithrin perthnasoedd cryf gyda dysgwyr, staff, rhieni, llywodraethwyr ac asiantaethau allanol.
- Yn gallu ysgogi, herio a datblygu eraill, gan hyrwyddo diwylliant o ddisgwyliadau uchel a gwelliant parhaus.
- Yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
- Yn gallu cefnogi a chryfhau ein hethos, ein hiaith a'n diwylliant Cymraeg.
- Yn wydn, yn hyblyg ac yn gallu arwain yn effeithiol drwy gyfnodau o newid.
- Yn gweithio mewn partneriaeth â'r Pennaeth i yrru datblygiad strategol yr ysgol a sicrhau'r deilliannau gorau posibl i bob dysgwr.
Bydd y Llywodraethwyr yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, gan greu diwylliant o ddysgu a datblygiad effeithiol ar draws yr ysgol a'i chymuned.
Hoffai'r Llywodraethwyr i ymgeiswyr cyflwyno ffurflen gais gyflawn a manwl.
Mae Ysgol Gymraeg Bro Helyg wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae'r swydd hon yn gofn am gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) o dan y categori Athro Ysgol, a bydd angen cwblhau'r cofrestriad cyn dechrau yn y swydd. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gofrestru ar wefan y CGA: Cyngor y Gweithlu Addysg.
Mae'r swylt hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Cynhelir proces sgrinio cyn cyflogaeth gynhwysfawr a fydd yn cynnwys Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) gyda Rhestr Wahardd Plant.
Amdanom Ni
Ym Mlaenau Gwent, rydym yn angerddol am y gwaith rydym yn ei wneud a'r effaith a gawn. Rydym yn grymuso ein staff i wneud newidiadau ystyrlon a gweithredu i wella ein gwasanaethau.
Dyddiad Cau
Am 12:00 canol nos Dydd Gwener yr 20fed o Dachwedd 2026
Rhest fer
27 o Dachwedd 2026
Ymweliad Ysgol
Bydd croeso i ddarpar ymgeiswyr ymweld ar ysgolion cyn y dyddiad cau. Os hoffech drefnu ymweliad, cysylltwch â Mr Sion Roberts ar 07732185624.
Arsylwad Gwers
Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer baratoi a chyflwyno gwers yn eu hysgol bresennol cyn y cyfweliad ar 30 o Dachwedd 2026.
Dyddiad Cyfweld
Dydd Iau 3 o Ragfyr a Dydd Gwener 4 o Ragfyr 2026
Arweinyddion L8 - L12 - £64,804 - £71,507 Y Flwyddyn in Brynmawr employer: Educators
Conwy Family Information Service is an excellent employer, offering a supportive work culture that values community engagement and employee development. With the flexibility of hybrid working and a focus on meaningful outreach, employees have the opportunity to make a real impact in the lives of families while enjoying a balanced work-life environment. The role at the Old School Lane Integrated Centre in Llandudno not only provides a chance to connect with local services but also fosters personal growth through ongoing training and collaboration with dedicated professionals.