Athro/Athrawes A Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol Salary: Cyflog Graddfa Athro, a Thaliad Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu o £3,271 Dyddiad Dechrau: 1 af Ionawr 2025 neu cyn gynted â bo modd Nifer ar y Gofrestr: 195 Mae\’r Pennaeth a\’r Corff Llywodraethol am benodi Athro Dosbarth a Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol i weithio gyda\’n Uwch Dîm Rheoli a holl staff addysgu’r ysgol. Rydym yn chwilio am CADY brwdfrydig, angerddol ac ymroddedig sydd yn drefnus a gofalgar tra’n cefnogi ein disgyblion, rhieni a staff. Rydym yn chwilio am: Ymarferydd dosbarth rhagorol, sydd yr un mor angerddol ac ymroddedig i ddatblygiad emosiynol ac academaidd pob plentyn yn eu gofal. Unigolyn sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm llwyddiannus i hyrwyddo a datblygu dysgu ac addysgu cynhwysol ar draws yr ysgol. Sicrhau bod pob disgybl yn yr ysgol yn cael y cymorth priodol i sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial drwy oruchwylio, monitro a rheoli darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol, cymorth a chynhwysiant ar draws yr ysgol. Arwain ADY o fewn yr ysgol a bod yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol, arweiniad, a hyfforddiant mewn ADY a chynhwysiad i holl staff Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail a thrwy hynny sicrhau bod yr holl staff yn diwallu anghenion yr holl fyfyrwyr. Sicrhau bod yr holl gyfrifoldebau statudol yn eu lle. Gallwn gynnig y canlynol i chi: plant brwdfrydig, chwilfrydig, a chroesawgar. staff gweithgar, ymroddedig a medrus. rhieni a chorff llywodraethol cefnogol. ymrwymiad i\’ch datblygiad proffesiynol. Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion. Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae\’n ofynnol i chi lenwi\’r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi\’r ffurflen gais ar-lein byddwn ni\’n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd. Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 28ain o Dachwedd canol nos. MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I\’R YSGOL A\’R CYNGOR. YN OGYSTAL Â\’R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO\’N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD. Mae\’r Cyngor a\’r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a \’Perthyn\’, ein rhwydwaith LHDTQ+. #J-18808-Ljbffr
Contact Detail:
Educators Wales Recruiting Team