Swyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Gudd-wybodaeth Fyw in Carmarthen

Swyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Gudd-wybodaeth Fyw in Carmarthen

Carmarthen Full-Time On-site
D

Swyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Gudd-wybodaeth Fyw

Maes Busnes / Adran Yr Adran Ymchwiliadau Troseddol

Lleoliad Pencadlys

Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Sefydlog a Gweithredol

Lwfansau Sifft, Gweithio Penwythnos

Canran Sifft Gweithio Penwythnosau 20%

Rhan/Llawn Amser Llawn Amser

Math o Gytundeb Parhaol

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1

Dyddiad Cyfweliad 30 Tachwedd 2026

Dyddiad cau 11/11/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Gudd-wybodaeth Fyw yn Swyddfa Gudd-wybodaeth yr Heddlu (CID) .

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Darparu cymorth cudd-wybodaeth ar gyfer digwyddiadau argyfyngus a digwyddiadau arfau saethu digymell yn ôl cyfarwyddyd.

Darparu cudd-wybodaeth amser byw i staff gweithredol a anfonir i leoliadau digwyddiadau.

Rheoli derbyn ac ymchwilio i geisiadau cudd-wybodaeth wrth heddluoedd eraill, gan ddefnyddio’r holl gronfeydd data perthnasol, i gasglu a gwerthuso cudd-wybodaeth a ganfyddir am bobl benodol, gan ddilysu cofnodion pan fod angen.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

  1. Rhaid bod â’r gallu i ymchwilio i gronfeydd data a chynhyrchu crynodebau oddata cymhleth sydd wedi’u hysgrifennu’n dda mewn modd amserol. (H)
  2. Rhaid bod yn barod i weithio mewn amgylchedd lle mae cyfrinachedd achywirdeb o ran ymdrin â data’n hollbwysig. (H)
  3. Rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig,ac yn medru cyfathrebu â phobl ar bob lefel o'r sefydliad. (H)
  4. Rhaid arddangos ymagwedd ymarferol tuag at ddatrys problemau. (H)
  5. Rhaid dangos eich bod chi’n medru gweithio i lefel uchel o gywirdeb a thalusylw i fanylion. (H)

#J-18808-Ljbffr

Swyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Gudd-wybodaeth Fyw in Carmarthen employer: Dyfed-Powys Police

Dyfed Powys Police is an excellent employer, offering a supportive work culture that prioritises employee wellbeing and professional growth. With benefits such as flexible working opportunities, access to on-site gyms, and generous leave entitlements, employees can thrive both personally and professionally while serving their communities in a diverse and inclusive environment.

D

Contact Details:

Dyfed-Powys Police Recruitment Team