Read more in Carmarthen

Read more in Carmarthen

Carmarthen Full-Time No working from home possible
D

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?

Dyddiad Cyfweliad

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Cymorth Cyllid Ystadau yn Ystadau, 15 awr yr wythnos.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Darparu gwasanaeth gweinyddol proffesiynol ac effeithiol o safon uchel i gefnogi’r rhaglen waith ystadau strategol.

Darparu gwasanaeth ymchwil i’r tîm rheoli Ystadau ar faterion ystadau, gan gefnogi prosiectau yn ôl yr angen.

Ymgysylltu â chynrychiolwyr o’r Heddlu a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gais uwch swyddogion.

Bod yn gyfrifol am greu a datblygu systemau rheoli dogfennau, gan sicrhau y gall cydweithwyr gael mynediad at ddogfennau a gwybodaeth fel y bo’n briodol, mewn cydymffurfiaeth â Pholisïau a Gweithdrefnau’r Heddlu.

Paratoi adroddiadau, gan gasglu a chrynhoi gwybodaeth sy’n ymwneud â materion ystadau.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd cyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

#J-18808-Ljbffr

Read more in Carmarthen employer: Dyfed-Powys Police

Dyfed Powys Police is an excellent employer, offering a supportive work culture that prioritises employee wellbeing and professional growth. With benefits such as flexible working opportunities, access to on-site gyms, and generous leave entitlements, employees can thrive both personally and professionally while serving their communities in a diverse and inclusive environment.

D

Contact Details:

Dyfed-Powys Police Recruitment Team