Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
Dyddiad Cyfweliad
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Ydych chi'n chwilio am swydd sy'n mynd i roi boddhad i chi a'ch herio a lle mae eich gwaith yn wirioneddol bwysig?
Ydych chi am fod yn rhan o dîm anhygoel o bobl, sy'n gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau?
Os hynny, efallai mai interniaeth â thâl gyda Heddlu Dyfed Powys yw'r lle i chi ddechrau eich gyrfa.
Fel yr Intern Cyfryngau Digidol, byddwch chi’n gwneud amryw o bethau, o lunio ymgyrchoedd trawiadol i greu fideos effeithiol. Byddwch chi ar flaen y gad o ran y ffordd yr ydym yn cysylltu â’r gymuned ac yn rhannu ein gwaith hanfodol.
Cyflog y swyddi hyn yw £27,204 a hynny am gyfnod penodol o 12 mis, i ddechrau ym mis Medi 2027.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Rhaglen Interniaeth Heddlu Dyfed Powys:
Rhaid i chi fod yn astudio ar gwrs gradd ar hyn o bryd neu wedi graddio o fewn y 12 mis diwethaf
Mae’n rhaid eich bod wedi byw yn y DU am dair blynedd barhaus yn y cyfnod yn union cyn ymgeisio. Mae’r cyfnod tair blynedd yn cael ei gyfrif o’r cyfnod yn union cyn y gwneir cais.
Pwy ydyn ni:
Heddlu Dyfed Powys yw'r ardal heddlu fwyaf yng Nghymru a Lloegr yn ddaearyddol. Mae'n cwmpasu 4,188 milltir sgwâr dros y pedair sir, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai hon yw un o'r ardaloedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddi yn y DU, a gellir dadlau mai hon hefyd yw'r fwyaf deniadol.
Sut mae'n gweithio:
Mae ein hinterniaethau yn rhoi cyfle i israddedigion gael eu cyflogi gan Heddlu Dyfed Powys. Maent wedi'u cynllunio i roi cipolwg anhygoel i chi o sut rydym yn gweithio. Dyma gyfle i chi roi eich gwybodaeth academaidd ar brawf mewn lleoliad ymarferol a phroffesiynol lle byddwch yn cael profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr. Gallwn eich sicrhau y byddwch yn cael eich cefnogi gydol eich interniaeth gan dîm arbenigol a fydd yn eich annog i gyflawni eich potensial.
Am bwy rydyn ni'n chwilio:
Rydym yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig sydd am ennill sgiliau cyflogadwyedd rhagorol ochr yn ochr â'u hastudiaethau gradd. Rydym am benodi interniaid sy'n llawn syniadau arloesol, sydd ag etheg gwaith gwych ac sy'n gallu gweithio mewn amgylchedd tîm mewn sefydliad disgybledig.
A allech chi fod yn intern a fydd yn dod â sgiliau newydd a phersbectif ffres i'n helpu i herio ein ffyrdd presennol o weithio?
Beth allwch chi ddisgwyl?
- Bydd gan bob dechreuwr newydd cyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
- 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
- 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
- Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
- Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
- Cynllun pensiwn
- Rhwydweithiau Cymorth Staff
- Cyfleoedd gweithio hyblyg
- Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
- Darpariaethau tâl salwch
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â’r gwiriadau fetio, meddygol a geirda gofynnol gan Heddlu Dyfed-Powys.
Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin: 1 a 3 Rhagfyr 2026.
- Rhaid eich bod chi’n gweithio tuag at radd, neu gymhwyster cyfatebol, mewncyfathrebu digidol, marchnata neu ddisgyblaethau cysylltiedig, neu wedi graddio ofewn y 12 mis diwethaf (H)
- Rhaid meddu ar raddau TGAU rhwng A-C/5-9 mewn Mathemateg a’r Iaith Saesneg,neu brofiad perthnasol y gellir ei brofi hyd at lefel debyg mewn rhifedd a llythrennedd(H)
- Rhaid bod â phrofiad o weithio gydag amrywiaeth o lwyfannau cyfryngaucymdeithasol (H)
- Rhaid meddu ar y gallu i ddeall terfynau amser cyfathrebu/cyfryngau a rheoli eichllwyth gwaith eich hun, gan flaenoriaethu o’r newydd pan fo angen (H)
- Rhaid bod â lefel uchel o sylw i fanylion a sgiliau trefnu rhagorol (H)
#J-18808-Ljbffr
Intern Cyfryngau Digidol in Carmarthen employer: Dyfed-Powys Police
Dyfed Powys Police is an excellent employer, offering a supportive work culture that prioritises employee wellbeing and professional growth. With benefits such as flexible working opportunities, access to on-site gyms, and generous leave entitlements, employees can thrive both personally and professionally while serving their communities in a diverse and inclusive environment.