Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?
Dyddiad Cyfweliad
24 Tachwedd 2026
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Ydych chi’n nyrs gofrestredig ar rannau 1 a 3 Cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, gyda chymhwyster arbenigol mewn Iechyd Galwedigaethol?
- A oes gennych brofiad ers cymhwyso mewn lleoliad clinigol?
- Ydych chi eisiau datblygu i Iechyd Galwedigaethol a gweithredu eich gwybodaeth a phrofiad meddygol yn ymarferol o fewn sefydliad cymhleth â gofynion arbenigol?
Yna gallech chi fod yn Ddirprwy Reolwr yn Heddlu Dyfed-Powys.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Darparu arweinyddiaeth glinigol a rheolaeth llinell o ddydd i ddydd i Gynghorwyr Iechyd Galwedigaethol a Nyrsys Sgrinio. Dirprwyo ar gyfer, a chysgodi, yr arweinydd swyddogaeth Uwch Reolwr Iechyd a Llesiant Galwedigaethol yn ôl yr angen, gan ddatblygu sgiliau a phrofiad i ddarparu gallu olyniaeth yn y dyfodol. Gweithredu fel model rôl proffesiynol gan ddarparu arweinyddiaeth glinigol rwydol ac effeithiol, cyngor, cefnogaeth ac arweiniad.
Patrwm gweithio
- Mae’r rôl hon yn addas ar gyfer gweithio hybrid; yn ddelfrydol, 2 ddiwrnod yn gweithio gartref a 3 diwrnod yn y swyddfa.
- C gallwn gynnig swyddfa yn un o’n prif orsafoedd lleol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Bydd angen teithio i Gaerfyrddin weithiau ar gyfer digwyddiadau, cyfarfodydd a hyfforddiant. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am eich gorsaf agosaf, peidiwch ag oedi i gysylltu â’r tîm recriwtio.
- Ystyrir gwaith rhan amser, rhannu swydd, gweithio hyblyg ac oriau wedi’u cywasgu.
Beth allwch chi ddisgwyl?
Byddwch chi’n ymuno ag adran Iechyd a Llesiant Galwedigaethol sydd wedi’i achredu gan y Gwasanaeth Llesiant Heddlu Cenedlaethol. Cafodd ei chanmol yn ddiweddar yn y ‘Categori Cymorth Trawma’ yng Ngwobrau Oscar Kilo 2026. Arweinir yr adran gan Uwch Reolwr Iechyd Galwedigaethol profiadol sy’n blaenoriaethu dysgu, datblygiad proffesiynol parhaus a thyfiant personol, ac o’r herwydd, byddwch chi’n cael eich cefnogi i fynychu seminarau, gweminarau a chynadleddau perthnasol.
- Gofal iechyd am ddim am 12 mis drwy Police Mutual
- Cyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno, gan gynnwys goruchwyliaeth glinigol gychwynnol.
- Bydd ffioedd ar gyfer cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cael eu had-dalu gan yr Heddlu
- Goruchwyliaeth glinigol fisol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
- 24 diwrnod o wyliau blynyddol (mae hyn yn codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ac wyth gŵyl gyhoeddus
- 24 diwrnod o wyliau hyblyg ychwanegol
- Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd ar y safle
- Gostyngiadau gan fân-werthwyr amrywiol drwy’r Cynllun Golau Glas
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Cynllun pensiwn
- Rhwydweithiau Cymorth Staff
- Hawliau absenoldeb mamolaeth/tadolaeth a mabwysiadu hael.
- Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i fetio, geirdaon a gwiriadau meddygol.
- A oes gennych ddiddordeb yn y rôl?
- A oes gennych gwestiynau? Cysylltwch â Kathryn Evans, Uwch Reolwr, Iechyd a Llesiant Galwedigaethol: kathryn.evans@dyfed-powys.police.uk, neu’r tîm Recriwtio: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwyr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n plismona a gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o syniadau, ymagweddau, a sgiliau gall amrywiaeth gyflwyno; gyda’r cyfan yn ein helpu i gyflwyno gwasanaeth plismona gwell.
Ry’n ni’n parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrywiaeth o rwydweithiau staff a grwpiau i ddarparu cefnogaeth a chyngor penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiad. Ry’n ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a chymuned, ni waeth beth yw eu hoed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol, neu gredoau crefyddol.
Darganfyddwch p’un a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol fan hyn.
Ry’n ni wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog, ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.
#J-18808-Ljbffr
Dirprwy Reolwr - Iechyd Galwedigaethol in Carmarthen employer: Dyfed-Powys Police
Dyfed Powys Police is an excellent employer, offering a supportive work culture that prioritises employee wellbeing and professional growth. With benefits such as flexible working opportunities, access to on-site gyms, and generous leave entitlements, employees can thrive both personally and professionally while serving their communities in a diverse and inclusive environment.