Cymorth Pobl a DS (Adnoddau Dynol) in Carmarthen

Cymorth Pobl a DS (Adnoddau Dynol) in Carmarthen

Carmarthen Full-Time On-site
D

Maes Busnes / Adran Datblygu Sefydliadol a Phobl

Lleoliad Caerfyrddin, Pencadlys

Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Hyblyg

Rhan/Llawn Amser Llawn Amser

Math o Gytundeb Parhaol

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 3

Dyddiad Cyfweliad 19 Tachwedd 2026

Dyddiad cau 04/11/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Ydych chi’n chwilio am swydd newydd o fewn adran Adnoddau Dynol?

Ydych chi’n frwd dros ddarparu gwasanaeth effeithlon ac amserol i gwsmeriaid mewnol ac allanol?

Ydych chi eisiau ennill cymhwyster Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ffurfiol?

Yna efallai mai chi fydd Swyddog Cymorth Datblygu Pobl a’r Sefydliad (Adnoddau Dynol) nesaf Heddlu Dyfed-Powys.

Ry’n ni’n chwilio am rywun sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da ac sy’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg hyd safon lefel 3.

Yn y swydd hon, byddwch chi’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gweinyddol Adnoddau Dynol ar bob mater sy’n ymwneud â phobl, gan gynnwys recriwtio, dethol a dyrchafu. Byddwch chi’n datblygu gwybodaeth am feysydd allweddol megis deddfwriaeth Cyflogaeth, Rheoliadau’r Heddlu ac Amodau Gwasanaeth Staff yr Heddlu. Ry’n ni’n cynnig rhaglen hyfforddi lawn, gan gynnwys eich cofrestru i gwblhau cymhwyster Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu ffurfiol.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd cyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drio’r Cynllun Golau Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Cynhelir cyfweliadau: 03/09/2026

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

#J-18808-Ljbffr

Cymorth Pobl a DS (Adnoddau Dynol) in Carmarthen employer: Dyfed-Powys Police

Dyfed Powys Police is an excellent employer, offering a supportive work culture that prioritises employee wellbeing and professional growth. With benefits such as flexible working opportunities, access to on-site gyms, and generous leave entitlements, employees can thrive both personally and professionally while serving their communities in a diverse and inclusive environment.

D

Contact Details:

Dyfed-Powys Police Recruitment Team