Cymorth Cyflwyniadau Fforensig in Carmarthen

Cymorth Cyflwyniadau Fforensig in Carmarthen

Carmarthen Full-Time On-site
D

Maes Busnes / Adran Lleoliad Caerfyrddin,

Pencadlys Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Sefydlog a Gweithredol

Rhan/Llawn Amser Llawn Amser

Math o Gytundeb Parhaol

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1

Dyddiad Cyfweliad 24 Tachwedd 2026

Dyddiad cau 09/11/26 23:55

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Cymorth Cyflwyniadau Fforensig yn yr Uned Cefnogaeth Wyddonol.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Ymgymryd â gweinyddu cyffredinol o fewn yr Uned Cefnogaeth Wyddonol, gan gynnwys prosesu cyflwyniadau fforensig mewnol ac allanol a samplau biometrig, i gyfrannu at rediad esmwyth yr adran.

Penodol ar gyfer y Rôl

1. Bod yn gyfrifol am dderbyn, sicrhau ansawdd a chadw arddangosion fforensig yn briodol o fewn yr Uned Cefnogaeth Wyddonol a’r Uned Fforensig Digidol.

2. Prosesu arddangosion fforensig/samplau monitro amgylcheddol i’w trosglwyddo i adrannau mewnol ac asiantaethau allanol amrywiol, mynd ar ôl cyflwyniadau sydd heb eu cyflwyno eto, a gweithredu arddangosion fel y bo’n briodol ar ôl iddynt ddychwelyd o asiantaethau allanol.

3. Gwirio ansawdd gwaith papur cyflwyniadau a phrosesu arddangosion/deunydd mewn modd sy’n cynnal unplygrwydd yr arddangosion o dan safonau ISO a Chod Ymarfer y Rheoleiddiwr Gwyddor Fforensig, gan gynnwys dogfennu camgymeriadau drwy nodiadau ysgrifenedig a delweddau ffotograffig.

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd cyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Cynhelir cyfweliadau: 24ain a 25ain o Dachwedd

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

1. Rhaid meddu ar Raddau TGAU A-C mewn Mathemateg a’r Iaith Saesneg,neu feddu ar brofiad perthnasol y gellir ei brofi hyd lefel cymharol mewnllythrennedd a rhifedd (H)2. Rhaid dangos y gallu i weithio i lefel uchel o gywirdeb a dangos eich bod yntalu sylw i fanylion. (H)3. Rhaid arddangos ymagwedd ymarferol tuag at ddatrys problemau. (H)4. Rhaid bod gennych sgiliau cyfathrebu effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar. (H)5. Rhaid bod g...

#J-18808-Ljbffr

Cymorth Cyflwyniadau Fforensig in Carmarthen employer: Dyfed-Powys Police

Dyfed Powys Police is an excellent employer, offering a supportive work culture that prioritises employee wellbeing and professional growth. With benefits such as flexible working opportunities, access to on-site gyms, and generous leave entitlements, employees can thrive both personally and professionally while serving their communities in a diverse and inclusive environment.

D

Contact Details:

Dyfed-Powys Police Recruitment Team