Cydlynydd Iechyd Meddwl, Hunanladdiad a Hunan-niwed in Carmarthen

Cydlynydd Iechyd Meddwl, Hunanladdiad a Hunan-niwed in Carmarthen

Carmarthen Full-Time On-site
D

Cydlynydd Iechyd Meddwl, Hunanladdiad a Hunan-niwed

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?

Dyddiad Cyfweliad

23 Tachwedd 2026

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Cydlynydd Iechyd Meddwl, Hunanladdiad a Hunan-niwed yn Y Ganolfan Atal Troseddau Ganolog.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Rhoi cyngor a chyfarwyddyd arbenigol i'r heddlu, gan gynnwys prif swyddogion, swyddogion gweithredol a staff, mewn perthynas â'r ymateb i'r rhai ag anghenion iechyd meddwl, a'r gwasanaeth a ddarperir iddynt, yn fewnol ac yn allanol i'r sefydliad. Gweithio hefyd fel arweinydd yr heddlu ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Beth allwch chi ddisgwyl?

  • Bydd gan bob dechreuwr newydd cyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
  • 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
  • 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
  • Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
  • Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
  • Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwi’r Cynllun Golau Glas
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith
  • Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
  • Cynllun pensiwn
  • Rhwydweithiau Cymorth Staff
  • Cyfleoedd gweithio hyblyg
  • Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
  • Darpariaethau tâl salwch
  1. Rhaid meddu ar radd, cymhwyster proffesiynol cyfatebol neu brofiad perthnasol yn y maes gwaith sydd yn cyfateb i lefel gyffelyb o gymhwyster (H)
  2. Rhaid meddu ar brofiad o weithio yn y sector iechyd neu iechyd meddwl, gan gynnwys dealltwriaeth o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a 2007 (H)
  3. Rhaid meddu ar brofiad o ymchwilio, dadansoddi, ac ysgrifennu adroddiadau neu ddatblygu polisïau (H)
  4. Rhaid meddu ar brofiad o ysgrifennu a rhoi cyflwyniadau a/neu hyfforddiant (H)
  5. Rhaid meddu ar brofiad o weithio a negodi gydag ystod eang o bobl a ffurfio partneriaethau gwaith llwyddiannus i gyflawni newid (H)

#J-18808-Ljbffr

Cydlynydd Iechyd Meddwl, Hunanladdiad a Hunan-niwed in Carmarthen employer: Dyfed-Powys Police

Dyfed Powys Police is an excellent employer, offering a supportive work culture that prioritises employee wellbeing and professional growth. With benefits such as flexible working opportunities, access to on-site gyms, and generous leave entitlements, employees can thrive both personally and professionally while serving their communities in a diverse and inclusive environment.

D

Contact Details:

Dyfed-Powys Police Recruitment Team