Rhif Cais y Swydd
9467 Math o Waith
Achlysurol Swyddogaeth y Swydd
Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog
£13.45 yr awr Lleoliad
Llanishen (Caerdydd) Ymgeisiwch CGâPh – byddwn yn adolygu ceisiadau yn wythnosol tan i’r swydd gael ei llenwi ag ymgeisydd addas.
Werth ei wybod
Cronfa Dalent Staff Dros Dro Tymhorol 2027 Hoffech chi ymuno â ni ar gyfer tymor 2027? Contract: Dros dro / dim oriau Hyfforddiant: Bwriedir cychwyn diwrnodau hyfforddi â thâl ym mis Ionawr 2027, gan gynnwys dau benwythnos cyn i’r tymor ddechrau yn ddelfrydol. Patrwm gweithio: Bydd gwaith ar gael ar draws penwythnosau a gwyliau ysgol, gan gynnwys yn ystod cyfnod y gaeaf. Gan fod hwn yn gontract dim oriau, nid yw oriau wedi’u sicrhau. Cronfa dalent: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â’n cronfa dalent staff dros dro tymhorol 2027, y gellir cynnig gwaith dros dro ohoni yn seiliedig ar ofynion y busnes a’r gwaith sydd ar gael. Hoffech chi wybod mwy? Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â
, gan gynnwys Rhif Adnabod y Swydd yn y llinell bwnc. Pwy ydyn ni
Ynglŷn â’n canolfan atyniad ymwelwyr... Agorodd ein safle Atyniad Ymwelwyr yn Llys-faen a Llanisien yn 2023, yng ngogledd Caerdydd, ac mae ar agor drwy’r flwyddyn! Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw un a hoffai ymuno â Dŵr Cymru. Mae’r safle yn brolio adeilad Atyniad Ymwelwyr o’r radd flaenaf â bwyty sydd â lle i 150, balconi â golygfeydd dros y ddwy gronfa ddŵr, ystafelloedd newid grŵp a chiwbicl, gweithgareddau ar y tir a’r dŵr, man dysgu addysgol, cuddfannau ac ynysoedd adar, ystafelloedd cyfarfod a chaffi Grab & Go. Dewch i ymuno â’n tîm a gweithio yn y werddon werdd / las hon llai na 5 milltir o ganol dinas Caerdydd. Hoffech chi weld mwy? Cymerwch olwg yma: Amdanoch chi
Byddwch yn mwynhau gweithio gyda phobl a helpu ymwelwyr i gael profiad diogel, difyr a chofiadwy. Byddwch yn gyfforddus yn gweithio yn rhan o dîm, tra hefyd yn defnyddio eich menter eich hun pan fydd angen. Profiad Hanfodol Profiad o weithio gyda’r cyhoedd a darparu gwasanaeth cynorthwyol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Profiad o ddilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch. Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol Brwdfrydig am roi ein cwsmeriaid gyntaf bob dydd. Gallu gweithio’n hyderus ar eich liwt eich hun ac yn rhan o dîm. Dealltwriaeth o ddiogelwch dŵr. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, â’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Saesneg. Cyfforddus yn defnyddio TG ac yn dysgu systemau newydd. Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi defnyddio ein systemau o’r blaen, byddwn yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch. Gonest a phroffesiynol yn eich agwedd. Agored i adborth, dysgu a datblygu sgiliau newydd. Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano
Byddwch yn rhan o’n tîm Gweithgareddau, gan helpu i ddiogelu a chynorthwyo cwsmeriaid sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr, gweithgareddau ar y tir a meithrin tîm, tra’n sicrhau safon uchel o iechyd a diogelwch bob amser. Mae ein Canolfannau Gweithgareddau ar agor 7 diwrnod yr wythnos, felly bydd y swydd yn cynnwys gweithio fin nos, penwythnosau a gwyliau banc. Yr hyn y byddwch yn ei wneud Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gan gyfarfod, cyfarch a helpu pob ymwelydd i gael y mwyaf o’i ymweliad, gan gynnwys mewngofnodi cwsmeriaid, ymateb i ymholiadau am weithgareddau ac archebion a derbyn taliadau. Cynorthwyo yn y ddarpariaeth o weithgareddau o ansawdd uchel ar y tir a/neu ar y dŵr, gan gynnwys rhaglenni meithrin tîm, yn unol â gofynion y Corff Llywodraethu Cenedlaethol (NGB) a Dŵr Cymru. Cynorthwyo gyda’r broses o logi offer gweithgareddau, gan gynnwys darparu sesiynau briffio effeithiol ar ddiogelwch, a chynorthwyo cwsmeriaid sy’n defnyddio offer ar y safle. Gweithio’n rhagweithiol yn rhan o dîm i baratoi a chlirio cyfleusterau ar-safle, tra’n helpu i gynnal cyflwr, diogelwch a glendid offer gweithgareddau i safon gyson uchel. Helpu i sicrhau diogelwch pawb ar y safle, gan gynnwys cyflogeion, y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau a’r cyhoedd, gan ddilyn gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer adrodd digwyddiadau a chynnal diogelwch dŵr rhagorol. Cyfathrebu ag ymwelwyr mewn ffordd frwdfrydig, wybodus a chynorthwyol, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chyflwyno portread cadarnhaol ar gyfer Dŵr Cymru. Gweithio ochr yn ochr â’r tîm Parcmyn ar ddiogelwch a bioddiogelwch y cronfeydd dŵr, yn ogystal â chynorthwyo’r gwaith o gynnal a chadw’r safle a’i gadw’n daclus, gan gynnwys casglu sbwriel, glanhau toiledau, a chynnal a chadw adeiladau a’r safle. Helpu i sicrhau bod rheolau’r safle ac ymyl y dŵr yn cael eu dilyn, yn enwedig y rheol ‘dim nofio mewn cronfeydd dŵr heb ganiatâd’, amseroedd agor a chau, a threfnu ymwelwyr yn ddiogel yn ystod cyfnodau prysur. Gweithio ar y cyd â sefydliadau trydydd parti, gan gynnwys elusennau bywyd gwyllt a grwpiau gwirfoddolwyr, a chynorthwyo gweithgareddau cadwraeth, addysgol, mynediad cyhoeddus a hamdden, diwrnodau agored a digwyddiadau. Cynorthwyo’r tîm ehangach ac adrannau eraill, gan gynnwys y caffi neu’r tîm Parcmyn, fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes.
Buddion
Mae gennym fuddion gwych, gan gynnwys: · Adolygiad cyflog blynyddol · Gostyngiadau Staff ar gyfer ein hatyniadau ymwelwyr · Rhoddir hyfforddiant llawn a darperir gwisg · Man gweithio hyfryd · Oriau gwaith hyblyg Tra hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw sydd wir yn poeni am ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd, ac am ofalu am ein hamgylchedd hardd. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.
Hyfforddwr Gweithgareddau in Cardiff employer: DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc
Dŵr Cymru Cyf is an exceptional employer that values innovation and collaboration, offering a dynamic work culture where employees can thrive. With hybrid working options based in Cardiff, flexible hours, and a commitment to employee growth, you will have the opportunity to make a meaningful impact on essential public services while developing your skills in a supportive environment.
Contact Details:
DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc Recruitment Team