Teaching Assistant Level 2 – Ysgol-Y-Dderi Primary School in Lampeter

Teaching Assistant Level 2 – Ysgol-Y-Dderi Primary School in Lampeter

Lampeter Full-Time No working from home possible
C

The following is an advert for a position where the ability to work and converse through the medium of Welsh is essential.

Oes gennych brofiad o gefnogi disgyblion ag anghenion ymddygiadol neu anghenion dysgu ychwanegol? Ydych chi’n barod i gymryd rôl fwy annibynnol wrth helpu plant i ffynnu yn yr ysgol?

Mae Ysgol y Dderi yn recriwtio Cynorthwyydd Addysgu – Lefel 2 (Ymddygiad/Arweiniad/Cefnogaeth) i ymuno â’n tîm o 28/9/26 am gyfnod o 16/09/27 Mae hwn yn cyfle gwerthfawr i gefnogi disgyblion yn y dosbarth ac y tu allan iddo.

Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2, byddwch yn:

  • Darparu cefnogaeth wedi’i deilwra i ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion addysgol arbennig, gan sicrhau eu diogelwch a’u mynediad at ddysgu.
  • Defnyddio sgiliau arbenigol a phrofiad i ddarparu cefnogaeth allgymorth ac i gynorthwyo gyda Chynlluniau Addysg ac Ymddygiad Unigol.
  • Hyrwyddo cynhwysiant, annibyniaeth ac ymddygiad cadarnhaol.
  • Cefnogi gweithgareddau dysgu, monitro cynnydd disgyblion, a rhoi adborth i athrawon.
  • Helpu i greu amgylchedd dysgu pwrpasol a chefnogol.
  • Meithrin perthnasoedd cryf gyda disgyblion, staff a theuluoedd, a chyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol gan gynnwys teithiau a gweithgareddau.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:

  • Wedi gweithio gyda neu ofalu am blant o oedran perthnasol.
  • Yn meddu ar NVQ Lefel 3 ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu neu gymwysterau/profiad cyfatebol.
  • Yn meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd da ac yn hyderus wrth ddefnyddio TG i gefnogi dysgu.
  • Yn deall datblygiad plant, strategaethau dysgu, a pholisïau perthnasol.
  • Yn hyblyg, rhagweithiol, ac yn gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Yn meddu ar hyfforddiant cymorth cyntaf neu’n barod i’w gwblhau.

Pam Ymuno â Ni?

Ymunwch â chymuned ysgol ofalgar ac ymroddedig lle mae eich sgiliau a’ch profiad yn cael eu gwerthfawrogi. Rydym yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant, gan eich helpu i dyfu yn eich rôl tra’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgu a lles disgyblion.

Darganfyddwch fwy am Ysgol y Dderi yma: ydderi.ceredigion.sch.uk

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Heini Thomas ar thomash92@hwbcymru.net

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y proses recriwtio.

#J-18808-Ljbffr

Teaching Assistant Level 2 – Ysgol-Y-Dderi Primary School in Lampeter employer: Cyngor Sir Ceredigion County Council

Cyngor Sir Ceredigion County Council is an excellent employer, offering a supportive work culture that prioritises the safety and well-being of both staff and students. With a commitment to inclusivity and individual assessment, employees can expect growth opportunities within a community-focused environment, making it a rewarding place to contribute to the educational sector in Aberystwyth.

C

Contact Details:

Cyngor Sir Ceredigion County Council Recruitment Team