Teacher – Ysgol Bro Pedr in Lampeter

Teacher – Ysgol Bro Pedr in Lampeter

Lampeter Full-Time No home office possible
C

At a Glance

  • Tasks: Join a vibrant teaching team and inspire students in a bilingual environment.
  • Company: Ysgol Bro Pedr, a pioneering 3-19 bilingual school in Wales.
  • Benefits: Receive support for professional development and transition to secondary education.
  • Why this job: Make a real difference in students' lives while expanding your teaching experience.
  • Qualifications: Passion for teaching and a desire to develop independent learners.
  • Other info: Open to full-time or part-time applications; inclusive and supportive work environment.

Mae’r ysgol yn awyddus i benodi Athro / Athrawes Cynradd profiadol neu athro sydd wedi bod allan o’r proffesiwn, sydd â diddordeb mewn trosglwyddo i’r sector uwchradd cyfrwng Cymraeg fel rhan o gynnllun pontio Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg o fewn y sector uwchradd. Fel rhan o’r cynllun byddwch yn ymuno â thîm addysgu Bro Pedr am flwyddyn gan dderbyn cefnogaeth wrth addysgu o fewn y sector uwchradd. Gwahoddwn geisiadau gan athrawon brwdfrydig a blaengar o’r sector cynradd sydd â diddordeb mewn ehangu eu profiadau mewn ysgol pob oed. Yn ogystal, croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i ddysgu yng Nghymru neu athrawon sydd am ddychwelyd i’r proffesiwn.

Ysgol dwyieithog yw Ysgol Bro Pedr a rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn un o ysgolion cyntaf 3-19 Cymru, ac yn torri tir newydd o ran darparu addysg gydol oed ar gyfer ein disgyblion. Er bod nifer o ddisgyblion yn cychwyn yn yr ysgol yn 3 oed, daw nifer yn ogystal o ysgolion cynradd partner eraill o’r Awdurdod Lleol ac o Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin. Mae 960 o ddisgyblion ar rôl yr ysgol – 321 o ddisgyblion Meithrin i flwyddyn 6 a 639 o ddisgyblion Blwyddyn 7-13 (sy’n cynnwys 79 o ddisgyblion ym mlwyddyn 12 a 55 o ddisgyblion ym mlwyddyn 13).

Daw 69.4% o ddisgyblion yr ysgol o gartrefi lle na ddefnyddir y Gymraeg. Mae’r disgyblion yn cael eu ffrydio’n ieithyddol, gyda dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a dosbarthiadau Cymraeg Ail-Iaith ym mlynyddoedd 3-13. Mae’r ysgol wedi mynd trwy ymgynghoriad llwyddiannus yn ddiweddar sy’n golygu bod ein disgyblion Dysgu Sylfaen i gyd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar hyn o bryd, mae 24.5% o’n disgyblion yn hawlio prydiau ysgol am ddim (20.97% o’n disgyblion oed uwchradd a 31.7% o’n disgyblion oed cynradd). Ar hyn o bryd, mae 15 o ddisgyblion sydd mewn gofal yn mynychu ein hysgol ac mae 16 o ddisgyblion yr ysgol yn ofalwyr ifanc. Hefyd, mae 10.1% o’n disgyblion a Saesneg fel Iaith Ychwanegol, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae’r ganran yn is o fewn yr oed cynradd (9.03%) o’i gymharu â’r oed uwchradd (10.64%). Rydym yn falch iawn o’n cymuned cynhwysol yn Ysgol Bro Pedr a rydym yn darparu’n llwyddiannus ar gyfer ystod lawn o alluoedd a chefndiroedd.

Lleolir Canolfan Y Bont, sef adnodd sirol ar gyfer disgyblion o oed uwchradd ag anghenion amrywiol (ASD, SLD, PMLD, MSI), ar safle’r ysgol. Mae’r ganolfan yn rhan lawn o’r ysgol, ac mae’r disgyblion ar rôl Ysgol Bro Pedr. Yn ogystal, sefydlwyd uned Sgiliau Bywyd sy’n darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol lled ddwys a disgyblion ymddygiadol bregus a chynigai barhad a dilyniant i rai o disgyblion Canolfan y Bont lle’n berthnasol ac ymarferol. Mae yna 11 o ddisgyblion yn mynychu Canolfan Y Bont a 21 o ddisgyblion yn mynychu Sgiliau Bywyd, ar hyn o bryd.

Mae’r cynllun hwn yn cynnig blwyddyn o gyflogaeth yn Ysgol Bro Pedr i arsylwi ac addysgu o fewn pwnc neu bynciau arbenigol. Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant byddwch yn derbyn cefnogaeth i drosglwyddo’n llwyddiannus i addysgu yn y sector uwchradd. Bydd ffocws penodol ar yr agweddau canlynol:

  • Cynllunio gwersi
  • Asesu, marcio ac adborth
  • Datblygu dycnwch
  • Sgiliau ieithyddol (yn ddibynnol ar anghenion yr unigolyn).

Bydd gennych Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn cynnal deialog broffesiynol rheolaidd er mwyn eich cefnogi. Bydd eich amserlen yn cynnig cyfnodau estynedig i gynllunio, ymchwilio ac arsylwi yn ogystal ag amserlen ddysgu.

Edrychwn am unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amserneu ran amser.

Mae’r cynllun hwn wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i ymgeiswyr ar draws Cymru.

Proses ymgeisio: Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i’r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 22 Chwefror 2026.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner rhwng cyn gwyliau’r Pasg.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

#J-18808-Ljbffr

C

Contact Detail:

Cyngor Sir Ceredigion County Council Recruiting Team

StudySmarter Expert Advice 🤫

We think this is how you could land Teacher – Ysgol Bro Pedr in Lampeter

Tip Number 1

Get to know the school! Research Ysgol Bro Pedr, its values, and its community. This will help you tailor your approach during interviews and show that you're genuinely interested in being part of their team.

Tip Number 2

Network like a pro! Connect with current or former teachers at Ysgol Bro Pedr on social media or professional platforms. They can provide insider tips and might even put in a good word for you!

Tip Number 3

Prepare for the interview by practising common questions and scenarios specific to teaching in a bilingual environment. Show off your passion for education and how you can contribute to the school's mission.

Tip Number 4

Don’t forget to apply through our website! It’s the best way to ensure your application gets seen. Plus, it shows you’re following the process as outlined, which is always a good look.

Teacher – Ysgol Bro Pedr in Lampeter
Cyngor Sir Ceredigion County Council
Location: Lampeter

Land your dream job quicker with Premium

You’re marked as a top applicant with our partner companies
Individual CV and cover letter feedback including tailoring to specific job roles
Be among the first applications for new jobs with our AI application
1:1 support and career advice from our career coaches
Go Premium

Money-back if you don't land a job in 6-months

C
Similar positions in other companies
UK’s top job board for Gen Z
discover-jobs-cta
Discover now
>