Mae’r Gwasanaethau Ailgylchu a Chymdogaeth yn chwarae rhan hanfodol wrth cynnal a gwella'r amgylchedd i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
Mae hwn yn gyfle arweinyddiaeth allweddol i gymryd cyfrifoldeb strategol am Wasanaethau Ailgylchu a Chymdogaeth, gan ddarparu gwasanaethau cynaliadwy o ansawdd uchel sydd â chwsmeriaid wrth eu gwraidd ac sy'n cyfrannu at fywiogrwydd ac atyniad y ddinas.
Fel Pennaeth Strydlun, byddwch yn arwain y gwaith o ddarparu Gwasanaethau Ailgylchu a Chymdogaeth ar Sail Ardal, yn effeithiol ac yn effeithlon, gan sicrhau bod y gwasanaethau'n fodern, yn arloesol ac yn cyd-fynd ag arfer gorau.
Mae'r rôl yn cynnwys goruchwylio:
Seilwaith gwastraff ac ailgylchu, gan gynnwys canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a gwaredu gwastraff;
Gwasanaethau casglu gwastraff, gan gynnwys gweithrediadau masnachol;
Gorfodi amgylcheddol a glanhau strydoedd.
Byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth lunio dyfodol hirdymor gwasanaethau trwy hyrwyddo arloesedd, arwain trawsnewid, ac ymgorffori atebion cynaliadwy sy'n gwella canlyniadau amgylcheddol a lles cymunedol.
Gan weithio fel rhan o'r Uwch Dîm Rheoli, byddwch yn cyfrannu at flaenoriaethau corfforaethol ac yn arwain gwelliannau mawr i wasanaethau ar draws y Gyfarwyddiaeth.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol ac ysbrydoledig sydd â sgiliau arwain a rheoli strategol rhagorol, a gallu profedig i ddarparu gwasanaethau gweithredol mawr a chymhleth. Bydd gennych hanes cryf o arwain trawsnewid a rheoli newid mewn amgylcheddau heriol ariannol, ochr yn ochr â phrofiad o ddatblygu polisi, cynllunio gwasanaethau a gwella perfformiad.
Byddwch yn dod â sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu, dylanwadu a gweithio mewn partneriaeth, gyda'r hygrededd i weithio'n effeithiol gydag ystod eang o randdeiliaid. Mae profiad o reoli cyllidebau ac adnoddau sylweddol yn hanfodol, gan sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu'n effeithlon ac yn darparu gwerth am arian.
Yn anad dim, byddwch yn angerddol am wella canlyniadau amgylcheddol a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gymunedau, gyda'r gallu i arwain timau perfformiad uchel a hyrwyddo newid ystyrlon a pharhaol.
Mae hwn yn gyfle unigryw i arwain gwasanaeth proffil uchel sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fywydau beunyddiol trigolion, gan hyrwyddo arloesedd a chynaliadwyedd ar draws gwasanaethau amgylcheddol tra'n dylanwadu ar gyfeiriad strategol ar lefel uwch, i gyd fel rhan o dîm arweinyddiaeth uchelgeisiol a blaengar.
Gwybodaeth Ychwanegol
Efallai y bydd angen teithio ar draws gwahanol leoliadau
Byddai trwydded yrru ddilys lawn yn ddymunol.
Mae’r swydd hon yn barhaol ac yn addas i’w rhannu.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni caiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
#J-18808-Ljbffr
PENNAETH STRYDLUN – GWASANAETHAU AILGYLCHU A CHYMDOGAETH in Cardiff employer: Cyngor Caerdydd/Cardiff Council
Cardiff Council is an exceptional employer, offering a supportive work culture that values collaboration and community engagement. Employees benefit from opportunities for professional growth and development within the public sector, alongside a commitment to work-life balance and meaningful contributions to local development projects. Working in Cardiff not only provides a vibrant city atmosphere but also allows you to make a tangible impact on the community.
Contact Details:
Cyngor Caerdydd/Cardiff Council Recruitment Team