At a Glance
- Tasks: Lead a dedicated team in delivering high-quality licensing services across Wales.
- Company: Natural Resources Wales, committed to sustainability and biodiversity.
- Benefits: Competitive salary, generous leave, professional development, and flexible working options.
- Other info: Join a diverse team and enjoy excellent career growth opportunities.
- Why this job: Make a real impact on species licensing and contribute to environmental sustainability.
- Qualifications: Experience in management and a strong understanding of regulatory processes.
The predicted salary is between 39300 - 44500 £ per year.
Y Tîm Trwyddedu Rhywogaethau / Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu
Cyflog cychwynnol: £45,367 yn codi i £50,877 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser).
Math o gytundeb: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor – croesewir trafodaethau yn ystod y cyfweliad)
Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau 21 Gorffennaf 2025
Y rôl
Fel Arweinydd y Tîm Trwyddedu Rhywogaethau, byddwch yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth technegol o ansawdd uchel i randdeiliaid mewnol ac allanol. Byddwch yn sicrhau bod penderfyniadau trwyddedu rheoleiddiol cadarn, sy’n seiliedig ar risg, yn cael eu gwneud ledled Cymru, gyda’ch arbenigedd yn tanategu ac yn cynnal y gwaith hanfodol hwn. Gan arwain tîm ymroddedig o saith gweithiwr proffesiynol, byddwch yn eu rheoli a’u cymell i gyflawni portffolio amrywiol o drwyddedau rhywogaethau, sy’n amrywio o ran cymhlethdod a graddfa. Bydd eich arweinyddiaeth yn allweddol wrth gynnal gwasanaeth trwyddedu cyson, effeithlon ac arbenigol.
Mae cydweithio yn ganolog i’r rôl hon. Byddwch chi a’ch tîm yn cydweithio’n agos â chydweithwyr ar draws y Gwasanaeth Trwyddedu ehangach, gan feithrin diwylliant sy’n gwerthfawrogi gwaith tîm, effeithlonrwydd a chryfderau unigol pob aelod o’r tîm. Byddwch hefyd yn cydweithio â rhannau eraill o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gan gynnwys y timau cynghori ar rywogaethau, timau polisi bioamrywiaeth, a’r tîm dulliau rheoliadol, gan helpu i lunio a gweithredu polisïau, gweithdrefnau, ac arferion gorau.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn rheoli enw da Cyfoeth Naturiol Cymru, gan sicrhau aliniad â gweithgareddau sefydliadol a llywodraethu ehangach sy’n gysylltiedig â chyfundrefn rheoleiddio rhywogaethau ledled Cymru. Yn ogystal, byddwch yn goruchwylio’r gwaith o adfer costau ar gyfer gwasanaethau trwyddedu pan fo’n berthnasol, yn gyrru gwelliant parhaus o ran prosesau a safonau, ac yn rhoi cyngor ar ddeddfwriaeth sy’n dod i’r amlwg a’i goblygiadau posibl i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i un o swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru, a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas wrth eich penodi. Bydd unrhyw gyfarfodydd neu hyfforddiant wyneb yn wyneb rheolaidd yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Nicholas Bettinson drwy anfon neges at .
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i'r dyddiad cau.
Amdanom ni
Mae’r tîm rhywogaethau yn un o sawl tîm yng Ngwasanaeth Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu, mae ein penderfyniadau’n helpu i gyflawni gweledigaeth ein cynllun corfforaethol ar gyfer Cymru yn 2030 fel gwlad lle mae natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd. Darperir gwasanaeth proffesiynol i gwsmeriaid yn unol â thargedau lefel gwasanaeth, gan asesu a phenderfynu ar geisiadau cymhleth am drwyddedau rhywogaethau, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â pholisïau, prosesau a chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r tîm yn cyfrannu’n weithredol at waith datblygu strategol, gan sicrhau bod trwyddedau Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i fod yn effeithiol ac yn cyd-fynd â deddfwriaeth a gofynion rheoleiddiol sy’n esblygu. Mae hwn yn gyfle i ddylanwadu ar y ffordd yr ydym yn addasu i heriau newydd a sicrhau bod ein prosesau trwyddedu yn parhau i gefnogi datblygu cynaliadwy.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Rheoli a chynllunio adnoddau tîm o fewn eich cyllideb ddynodedig er mwyn cyflawni amcanion y cynllun busnes, gan ddangos arweinyddiaeth glir a phersonol ar faterion llesiant, iechyd a diogelwch er mwyn cynnwys y tîm cyfan mewn diwylliant cadarnhaol.
- Rheoli perfformiad y staff yn unol â’r polisïau a gweithdrefnau cyfredol, a sicrhau bod y tîm yn cyflawni targedau’r dangosyddion perfformiad allweddol perthnasol.
- Gan ddefnyddio eich gwybodaeth fanwl am eich maes arbenigol, byddwch yn sicrhau bod penderfyniadau rheoleiddio cadarn yn cael eu gwneud gan weithio gyda rhwydweithiau partneriaid mewnol ac allanol y sector rhywogaethau i ddatrys ceisiadau trwyddedau anodd a chymhleth ledled Cymru.
- Cydweithio â chydweithwyr yn yr adrannau Gweithrediadau, Cyfathrebu, Polisi a Chyfreithiol, a chydag uwch-reolwyr, o ran safleoedd rhywogaethau sydd o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd neu sy’n cyflwyno risg uchel i enw da’r sefydliad.
- Llywio cynnwys y Cynllun Gwasanaeth Rheoleiddio, gan sicrhau bod y swyddogaeth drwyddedu’n cael ei hadlewyrchu yn y gweithgareddau strategol ar gyfer y trefniadau perthnasol.
- Gan ddefnyddio eich gwybodaeth arbenigol o’r maes pwnc, ymdrechu i wella arbedion effeithlonrwydd o ran proses a pholisi drwy gyfrannu at, a dylanwadu ar newidiadau i bolisïau a chanllawiau, drwy ymgysylltu’n weithredol â chwsmeriaid mewnol a grwpiau llywodraethu mewn perthynas â materion trwyddedu.
- Rhoi strategaethau ar waith a datblygu cynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni amcanion y Gwasanaeth Trwyddedu.
- Nodi a rheoli unrhyw risgiau i’r sefydliad a’i enw da, a dadansoddi a dehongli ystod eang o wybodaeth sy’n aml yn gymhleth, gan arddangos crebwyll cadarn ac ymwybyddiaeth wleidyddol dda wrth wneud penderfyniadau.
- Fel aelod o grŵp rheoli’r adran, cyfrannu at gyfeiriad a rheolaeth gyffredinol yr adran a’ch grŵp, gan reoli risgiau’n effeithiol.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy'n briodol i'r swydd.
- Ymrwymiad i Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i'ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy'n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio:
- Profiad blaenorol o fod yn rheolwr llinell neu’n rheolwr prosiect a gafwyd drwy arwain, rheoli, cefnogi a datblygu staff.
- Profiad sylweddol o fabwysiadu dull integredig sy’n seiliedig ar risg wrth fynd ati i gyflawni gwaith o fewn eich maes technegol o wybodaeth am rywogaethau.
- Y gallu i weithio’n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
- Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
- Profiad o weithio gyda chwsmeriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu prosesau a systemau er mwyn cynnal eu heffeithiolrwydd a gwella profiad y cwsmer.
- Sgiliau profedig o ran gwneud penderfyniadau ar sail risg, dadansoddi (data tystiolaethol) a datrys problemau.
- Sgiliau cyfathrebu a threfnu cryf profedig.
- Y gallu i ddefnyddio rhaglenni TG, gan gynnwys systemau gwybodaeth ddaearyddol, cronfeydd data, taenlenni, a rhaglenni prosesu geiriau.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol: Lefel - Lefel Mynediad (y gallu i ddeall a defnyddion ymadroddion a chyfarchion syml, dim gallu i sgwrsio yn Gymraeg). Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Daliwch ati i ddarllen
Rydym yn angerddol am greu gweithlu creadigol ac amrywiol ac yn annog ceisiadau gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym yn croesawu heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.
Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal, ac rydym yn gwarantu cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol. Rydym yn dymuno denu a chadw staff talentog a medrus, felly rydym yn sicrhau bod ein graddfeydd cyflog yn aros yn gystadleuol. Nodir graddfeydd cyflog ar ddisgrifiadau swydd wrth hysbysebu. Mae’r bobl a benodir yn cychwyn ar bwynt cyntaf y raddfa, gyda chynnydd gam wrth gam bob blwyddyn.
Rydym am i'n staff ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol. O ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth i gael mynediad i gyrsiau addysg bellach ac uwch, mae ein staff yn cael cyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth mewn amrywiaeth o bynciau, cynnal eu gwybodaeth o’r datblygiadau diweddaraf yn eu maes a pharhau i ddysgu wrth i'w gyrfa ddatblygu.
Rydym yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â ac sydd wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Ystyrir sgiliau Cymraeg yn ased i’r sefydliad, ac rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd wag yn Gymraeg neu Saesneg a bydd unrhyw gais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Gwnewch gais am y rôl hon
Cadwch y manylion hysbyseb yma ar gyfer cyfeirnod yn y dyfodol gan na fyddant ar gael ar-lein ar ôl y dyddiad cau.
Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau in Cardiff employer: Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
Contact Detail:
Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales Recruiting Team
StudySmarter Expert Advice 🤫
We think this is how you could land Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau in Cardiff
✨Tip Number 1
Network like a pro! Reach out to people in your field, especially those already working at Cyfoeth Naturiol Cymru. A friendly chat can open doors and give you insider info about the role.
✨Tip Number 2
Prepare for that interview! Research common questions for leadership roles and think about how your experience aligns with the job description. Practice makes perfect, so grab a mate and do some mock interviews.
✨Tip Number 3
Show your passion for biodiversity! Be ready to discuss how your values align with Cyfoeth Naturiol Cymru’s mission. They want to see that you care about the environment and are committed to making a difference.
✨Tip Number 4
Don’t forget to apply through our website! It’s the best way to ensure your application gets seen. Plus, it shows you’re serious about joining the team at Cyfoeth Naturiol Cymru.
We think you need these skills to ace Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau in Cardiff
Some tips for your application 🫡
Tailor Your Application: Make sure to customise your application to highlight how your experience aligns with the role of Arweinydd Tîm Trwyddedu Rhywogaethau. Use keywords from the job description to show that you understand what we're looking for.
Showcase Your Leadership Skills: Since this role involves leading a team, don’t forget to share examples of your leadership experience. Talk about how you've motivated and developed staff in previous roles – we want to see your management style!
Be Clear and Concise: When writing your application, keep it clear and to the point. Avoid jargon unless it's relevant to the role. We appreciate straightforward communication, so make sure your key points stand out.
Apply Through Our Website: We encourage you to apply directly through our website. It’s the best way to ensure your application gets to us quickly and efficiently. Plus, you’ll find all the details you need right there!
How to prepare for a job interview at Cyfoeth Naturiol Cymru / Natural Resources Wales
✨Know Your Stuff
Make sure you brush up on your knowledge about species licensing and regulatory frameworks. Familiarise yourself with the latest legislation and how it impacts the role. This will show that you're not just interested in the job, but that you’re genuinely passionate about the field.
✨Show Your Leadership Skills
Prepare examples of how you've successfully led a team or managed projects in the past. Think about specific challenges you faced and how you motivated your team to achieve goals. This is crucial for the Team Leader position, so be ready to discuss your leadership style and approach.
✨Collaboration is Key
Since this role involves a lot of collaboration, think of instances where you've worked effectively with others. Be prepared to discuss how you’ve built relationships with stakeholders and how you’ve contributed to a positive team culture. Highlight your ability to work across departments.
✨Ask Thoughtful Questions
At the end of the interview, don’t forget to ask insightful questions about the team dynamics, ongoing projects, or future challenges. This shows your interest in the role and helps you gauge if the company culture aligns with your values.